Mae gobeithion tîm pêl-droed merched Cymru o gyrraedd Ewro 2022 yn y fantol ar ôl iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daeth tîm Jayne Ludlow yn agos at unioni’r sgôr wedi iddyn nhw fynd ar ei hôl hi drwy gôl Frida Maanum er iddyn nhw gael y gorau o’r meddiant am gyfnodau hir.

Daeth cyfle cynnar i Jess Fishlock yn y munudau agoriadol wrth iddi golli’r amddiffyn a tharo’r bêl dros y gôl wrth ergydio tua chornel y rhwyd.

Bu’n rhaid i Gymru wrthsefyll cyfnodau o bwysau wedyn, wrth i Laura O’Sullivan orfod gwneud sawl arbediad allweddol oddi ar ergydion o’r cwrt cosbi.

Parhau wnaeth y pwysau yn yr ail hanner, ac fe arweiniodd camgymeriad Kayleigh Green yng nghanol y cae at golli meddiant a’r gôl dyngedfennol oddi ar symudiad ddechreuodd o gic rydd.

Daeth cyfle gorau Cymru o gic gornel, wrth i Angharad James ddarganfod Jess Fishlock a’i hergyd hi’n mynd y tu hwnt i’r gôl.

Tra bod y fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau bod Norwy drwodd i’r gystadleuaeth, mae gobeithion Cymru allan o’u dwylo eu hunain.

Bydd yn rhaid iddyn nhw guro Belarws yn eu gêm olaf a gobeithio bod Gogledd Iwerddon yn colli pwyntiau yn erbyn Belarws er mwyn gorffen yn ail a chael lle yn y gemau ail gyfle.