Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ceisio denu Jack Wilshere, cyn-chwaraewr Arsenal, West Ham a Bournemouth.

Does gan y chwaraewr canol cae 29 oed ddim clwb ar hyn o bryd ar ôl gadael Bournemouth ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Chwaraeodd e 17 o weithiau i Bournemouth wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, ond wnaeth e ddim llofnodi cytundeb newydd i aros gyda’r clwb.

Mae e wedi bod yn ymarfer gydag Arsenal yn ddiweddar er mwyn cynnal ei ffitrwydd, meddai Football Insider.

Yn ôl nifer o chwaraewyr Arsenal, Wilshere yw’r chwaraewr gora yn y sesiynau ymarfer ac mae e wedi bod yn helpu chwaraewyr ifainc y clwb.