Fe wnaeth tîm pêl-droed Wrecsam guro Dover o 1-0 yn y Gynghrair Genedlaethol heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4), ond roedd siom i Abertawe a Chaerdydd wrth iddyn nhw golli yn y Bencampwriaeth.

Collodd deg dyn yr Adar Gleision o 3-2 yn erbyn Sheffield United ar ôl bod ar y blaen, ac roedd buddugoliaeth o 1-0 i Middlesbrough, tîm is-reolwr Cymru Alan Knill, gartref yn erbyn yr Elyrch.

Bu’n rhaid i Sheffield United daro’n ôl ar ôl bod ar ei hôl hi yn erbyn Caerdydd, gyda Mark Harris yn rhoi ei dîm ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.

Ond roedden nhw dan bwysau ar ôl colli’r capten Sean Morrison, a welodd gerdyn coch am dacl flêr ar Billy Sharp.

Unionodd Morgan Gibbs-White y sgôr gydag ergyd o 25 llathen cyn i Sharp roi’r Blades ar y blaen, gyda David McGoldrick yn ymestyn mantais ei dîm.

Roedd gan Gaerdydd lygedyn o obaith pan sgoriodd Mark McGuinness â’i ben ond llwyddodd yr ymwelwyr i ddal eu tir i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn saith gêm yn erbyn Caerdydd, ac maen nhw wedi codi i’r degfed safle, tra bod yr Adar Gleision wedi gostwng i un safle uwchben safleoedd y gwymp.

Middlesbrough 1-0 Abertawe

Sgoriodd Isaiah Jones ei gôl gyntaf y tymor hwn i sicrhau’r triphwynt i Middlesbrough gartref yn erbyn Abertawe.

Fe lwyddodd i drechu’r amddiffyn ac osgoi camsefyll cyn taro’r bêl heibio’r golwr Ben Hamer i’w gwneud hi’n 1-0.

Wnaeth Abertawe ddim dihuno tan yr ail hanner, a bu bron i Joel Piroe unioni’r sgôr wrth i’r amddiffynnwr Paddy McNair lwyddo i daro’r ergyd oddi ar linell y gôl.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Middlesbrough yn codi uwchlaw Abertawe i’r nawfed safle, tra bod Abertawe’n gostwng i’r deuddegfed safle ar ôl colli dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dover 0-1 Wrecsam

Bu’n rhaid i Wrecsam frwydro’n galed am fuddugoliaeth o 1-0 oddi cartref yn Dover, y tîm sydd ar waelod y Gynghrair Genedlaethol.

Daeth unig gôl y gêm gan Jordan Davies ar ôl i Wrecsam berfformio orau yn yr hanner cyntaf.

Tarodd Aaron Hayden ergyd yn syth at Josh Bexon, ac fe wnaeth Paul Mullin wastraffu cyfle euraid.

Daeth y gôl o gic gornel gyda chwe munud o’r gêm yn weddill.

Mae Wrecsam yn bedwerydd yn y tabl, tra bod Dover yn dal ar y gwaelod wrth aros am eu buddugoliaeth gyntaf.