Mae’r Gymraes Sophie Ingle wedi cael ei chanmol ar y cyfryngau cymdeithasol am ei gwaith amddiffynnol wrth i dîm pêl-droed Chelsea ennill Cwpan FA Lloegr.

Roedden nhw’n fuddugol o 3-0 yn erbyn Arsenal yn Wembley i sicrhau’r trebl domestig yn y ffeinal a gafodd ei gohirio – enillon nhw’r Super League a Chwpan y Gynghrair y tymor diwethaf hefyd, gyda’u llwyddiant diweddaraf yn cyfri tuag at y trebl.

Rhwydodd Fran Kirby ar ôl tair munud yn dilyn camgymeriad amddiffynnol cynnar, a daeth dwy gôl Sam Kerr yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth.

Gwasgodd Chelsea o’r dechrau’n deg, ac fe wnaeth hynny orfodi’r chwaraewr canol cae Frida Maanum i ildio’r meddiant cyn i Kirby ruthro trwy ganol yr amddiffyn a tharo’r bêl i gornel y rhwyd.

Gallai Chelsea fod wedi dyblu eu mantais yn syth, wrth i Lia Walti wneud camgymeriad wrth ildio’r bêl cyn i Kirby greu cyfle euraid i Jen Beattie a gafodd ei atal gan yr amddiffyn.

Daeth cyfle eto i Kirby, gyda’r bêl yn cael ei hatal, a gallai Kerr fod wedi ennill cic o’r smotyn yn fuan wedyn wrth gael ei lorio.

Tarodd Kirby a Millie Bright ergydion ar ôl curo’r amddiffyn a tharo’r trawst.

Yn yr ail hanner, fe wnaeth Kerr redeg â’r bêl ar ôl ei derbyn hi gan Kirby a rhedeg i lawr y chwith cyn taro’r bêl i’r gôl ar y postyn agosaf.

A daeth ei hail gôl, a thrydedd ei thîm 13 munud cyn y diwedd wrth daro’r bêl dros ben y gôl-geidwad.

Gyda phob cyfle prin a ddaeth i Arsenal, roedd Sophie Ingle yn barod i atal y bygythiadau a gosod y seiliau ar gyfer ymosodiadau ei thîm.

Roedd y gystadleuaeth yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni, a chafodd y gêm hon ei chynnal ganrif union i’r diwrnod ers i’r awdurdodau wahardd merched rhag chwarae pêl-droed.

Dyma’r trydydd tro i Chelsea godi’r gwpan, a dim ond unwaith maen nhw wedi colli y tymor hwn, a hynny ar ddiwrnod cynta’r tymor yn erbyn Arsenal.