Mae Marnus Labuschagne, batiwr tramor tîm criced Morgannwg, wedi’i gynnwys yn nhîm Awstralia ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar gae’r Gabba yn Brisbane, dinas gartre’r chwaraewr 27 oed sy’n enedigol o Dde Affrica, ddydd Mercher (Rhagfyr 8).

Gall Morgannwg hawlio cryn dipyn o’r clod am ddatblygiad y batiwr o Awstralia dros y blynyddoedd diwethaf.

Doedd neb yn gwybod fawr ddim amdano fe pan ymunodd e â’r sir ar ddechrau tymor 2019, ac roedd Morgannwg yn ffyddiog eu bod nhw wedi dod o hyd i chwaraewr fyddai’n chwaraewr sirol cadarn.

Pan ddaeth i Gymru ar gyfer hanner cyntaf tymor 2019 yn 24 oed, roedd e ond wedi taro pedwar canred dosbarth cyntaf, gyda sgôr gorau o 134. Roedd e ond wedi chwarae mewn pum gêm brawf, gyda sgôr gorau o 81 yn erbyn Sri Lanca.

Yn ei ddeg gêm gyntaf i Forgannwg, sgoriodd e gyfanswm o 1,114 o rediadau gan ennill ei le yn nhîm Awstralia ar gyfer y Lludw.

Daeth e i’r cae yn ystod y gêm braf yn y Lludw yn Lord’s fel yr eilydd cyfergyd cyntaf erioed yn lle’r capten Steve Smith.

Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd e wedi sgorio mwy o rediadau mewn gemau prawf na neb arall yn y byd y flwyddyn honno.

Sgoriodd e bedwar canred mewn pum gêm yn erbyn Pacistan a Seland Newydd, gan gynnwys canred dwbl yn Sydney.

Fis Ionawr y llynedd, enillodd e wobr y chwaraewr gorau i dorri drwodd gan yr ICC. Fis yn ddiweddarach, cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gemau Prawf y Flwyddyn yn Awstralia, ac yn un o bum Cricedwr y Flwyddyn gan Wisden – gwobr sydd ond yn cael ei roi unwaith i gricedwr yn ystod ei yrfa.

Usman Khawaja

Mae’r dewiswyr, serch hynny, wedi hepgor Usman Khawaja, y batiwr llaw chwith.

Roedd hi rhyngddo fe a Travis Head, sy’n debygol o fatio’n rhif pump yn y prawf cyntaf ac yntau â chyfartaledd fatio o 39.80 mewn gemau prawf.

Mae Head wedi sgorio 394 o rediadau ar gyfartaledd o 49.25 yn y Sheffield Shield eleni, gan gynnwys dau ganred.

Mae Khawaja, yn y cyfamser, wedi sgorio 460 o rediadau ar gyfartaledd o 65.71 gyda dau ganred.

Ond dim ond cyfartaledd o 29 sydd gan Khawaja mewn 12 o brofion yn erbyn Lloegr.

Fydd Lloegr ddim yn enwi eu tîm cyn diwrnod cynta’r gyfres.

Tîm Awstralia: David Warner, Marcus Harris, Marnus Labuschagne, Steve Smith, Travis Head, Cameron Green, Alex Carey, Pat Cummins, Mitchell Starc, Nathan Lyon, Josh Hazlewood.

Tlws y Lludw

Cymru a’r Lludw

Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad pump fydd yn chwarae yn y gyfres yn Awstralia y gaeaf hwn