Gyda’r Nadolig yn agosáu, bydd y gemau yn dod rif y gwlith. Digon o gyfleoedd i greu argraff ar y tîm rheoli cenedlaethol felly gan ddechrau’r penwythnos hwn.

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd ymddangosiad prin i Connor Roberts wrth i Burnley golli yn Newcastle ddydd Sadwrn, yn dod oddi ar y fainc am y chwarter awr olaf wrth i’w dîm golli o gôl i ddim. Aros ar y fainc a wnaeth Wayne Hennessey yn y gêm honno ac felly hefyd Neco Williams wrth i Lerpwl ennill yn Wolves.

Roedd gwell siâp ar bethau ddydd Sul gyda Tyler Roberts a Dan James yn dechrau i Leeds am yr eilwaith mewn ychydig ddyddiau. Ac yn wir, Roberts a agorodd y sgorio yn y gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Brentford. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y cefnwr ifanc y gwrthwynebwyr, Fin Stevens.

Tyler Roberts

Ymddengys fod Ben Davies yn ffefryn gydag Antonio Conte ar ochr chwith ei dri yn y cefn; dechreuodd y Cymro eto wrth i’w dîm ennill o dair i ddim yn erbyn Norwich gyda’r amddiffynnwr yn creu’r drydedd gôl i Son Heung-Min. Ar y fainc yr oedd Joe Rodon.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Danny Ward hefyd wrth i Gaerlŷr golli o ddwy gôl i un yn erbyn Aston Villa yn y gêm hwyr ddydd Sul.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Roedd gêm fawr y penwythnos nos Wener wrth i’r ddau uchaf wynebu ei gilydd yn Craven Cottage. Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi rhwng Fulham a Bournemouth gyda Harry Wilson yn chwarae’r gêm gyfan i’r tîm cartref a Chris Mepham yn eilydd wrth i’r ymwelwyr setlo am bwynt yn hwyr yn y gêm.

Dechreuodd Mark Harris ac agor y sgorio i Gaerdydd wrth iddynt groesawu Sheffield United i Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn. Yn anffodus i’r Cymro, nid oedd ei gôl hanner cyntaf yn werth dim yn y diwedd gan i’w dîm ildio tair mewn chwarter awr yn yr ail hanner, tair i ddwy y sgôr terfynol. Dechreuodd Isaak Davies i’r Adar Gleision hefyd ac ymddangosodd Will Vaulks a Kieffer Moore oddi ar y fainc ond aros arni a wnaeth Rubin Colwill. Nid oedd Rhys Norrington-Davies yng ngharfan yr ymwelwyr.

Mark Harris

Colli o gôl i ddim gartref yn erbyn Middlesbrough a wnaeth Abertawe ddydd Sadwrn. Dechreuodd Ben Cabango a Jamie Paterson i’r Elyrch ond prif gyfraniad Paterson oedd derbyn cerdyn melyn am geisio twyllo’r dyfarnwr! Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Liam Cullen ac felly hefyd Neil Taylor i Boro yn erbyn ei gyn glwb.

Sgoriodd Tom Bradshaw i Millwall am yr ail benwythnos yn olynol wrth iddynt drechu Birmingham o dair gôl i un, pedwaredd gôl gynghrair y Cymro o’r tymor. Dechreuodd y llanc ifanc, Jordan James i Birmingham unwaith eto.

Croesawodd Blackpool Chris Maxwell yn ôl rhwng y pyst yn dilyn anaf ond yn anffodus ildiodd deirgwaith wrth iddynt golli o dair i ddim yn erbyn Luton. Nid oedd Tom Lockyer yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Fe sgoriodd Tom Lawrence i Derby nos Lun er iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn QPR a cholli a fu eu hanes unwaith eto ar y penwythnos, o gôl i ddim yn erbyn Bristol City y tro hwn.

Roedd Brennan Johnson ar y tîm buddugol wrth i Nottingham Forest drechu Peterborough Dave Cornell o ddwy gôl i ddim ac roedd gêm gyfartal i Sorba Thomas gyda Huddersfield yn Barnsley. Dechreuodd Ched Evans i Preston ond colli a fu eu hanes o gôl i ddim yn erbyn Blackburn.

Roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim i Stoke yn erbyn QPR ddydd Sul gydag Adam Davies, Morgan Fox a Joe Allen i gyd yn chwarae’r naw deg munud. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd James Chester i’r Potters ond cafodd George Thomas ddeg munud oddi ar y fainc i QPR.

 

*

 

Cwpan FA

Luke Jephcott a oedd arwr Plymouth yn ail rownd y Cwpan FA dydd Sul, yn sgorio’r gôl fuddugol yn Rochdale. Nid yw’r Cymro wedi cael y tymor gorau hyd yma ac ar y fainc y dechreuodd y gêm cyn dod ar y cae i’w hennill hi o ddwy i un yn y munudau olaf. Dechreuodd James Wilson a Ryan Broom ac yn wir, Broom a greodd gôl gyntaf y gêm.

Cymro arall i sgorio yn yr ail rownd a oedd Ellis Harrison i Portsmouth ond colli a fu hanes ei dîm ef o ddwy gôl i un yn erbyn Harrogate. Dechreuodd Kieron Freeman y gêm i Pompey hefyd ond nid oedd Joe Morrell na Louis Thompson yn y garfan.

Roedd buddugoliaeth i Jonny Williams gyda Swindon yn erbyn Walsall a Gwion Edwards gyda Wigan yn erbyn Colchester. Ac roedd ymddangosiad prin oddi ar fainc Amwythig i Charlie Caton wrth iddynt hwy symud i’r drydedd rownd gyda buddugoliaeth o ddwy i un yn erbyn Carlisle.

Colli a wnaeth Chris Norton gyda Cheltenham yn erbyn Wimbledon a Regan Poole gyda Lincoln yn erbyn Hartlepool.

Croesawodd Salford Chesterfield yn y gêm hwyr nos Sul ond colli o ddwy gôl i ddim a fu eu hanes gyda Tom King yn y gôl a Liam Sheppard yn yr amddiffyn.

Roedd ambell gêm yn y cynghreiriau is y penwythnos hwn ac fe chwaraeodd Nathan Broadhead yng ngêm gyfartal gôl yr un Sunderland yn erbyn Rhydychen.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n wythnos wych i Ryan Hedges, Marley Watkins ac Aberdeen yn Uwch Gynghrair yr Alban. Watkins a oedd seren y gêm, yn sgorio ddwywaith wrth iddynt guro St Mirren o bedair i un ddydd Sadwrn. Hedges a greodd yr ail o’r goliau hynny ar ôl sgorio un ei hun yn y fuddugoliaeth ganol wythnos o ddwy gôl i ddim yn erbyn Livingston.

Aeth pethau ddim cweit cystal i Ben Woodburn, yn dioddef yr embaras o gael ei eilyddio, heb anaf, wedi hanner awr o gêm Hearts yn erbyn Livingston ddydd Sul, er mawr foddhad i nifer o gefnogwyr y clwb ar y cyfryngau cymdeithasol. Aeth Hearts ymlaen i ennill o gôl i ddim.

Parhau y mae dychweliad graddol Christian Doidge i dîm Hibs yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf. Chwaraeodd ddeunaw munud olaf y gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Motherwell ddydd Sadwrn.

Mae Dylan Levitt yn parhau i fod allan o garfan Dundee United oherwydd anaf a chafodd gêm tîm Alex Samuel, Ross County, ei gohirio oherwydd y tywydd.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, colli a fu hanes Owain Fôn Williams gyda Dunfermline, y Cymro’n ildio unig gôl y gêm o’r smotyn yn erbyn Hamilton er iddo wneud arbediad da i gadw ei dîm ynddi wedi hynny.

Mae Rabbi Matondo bellach wedi sgorio tair yn ei ddwy gêm ddiwethaf ar ôl rhwydo dwy gôl Cercle Brugge yn eu buddugoliaeth o ddwy i ddim yn erbyn Kortrijk ddydd Sadwrn. Roedd y gyntaf yn glasur.

Efallai y gallai Schalke wneud â galw’r Cymro yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yng Ngwlad Belg gan mai colli o ddwy gôl i un a wnaethant hwy yn erbyn St. Pauli ddydd Sadwrn. Chwaraeodd James Lawrence y gêm gyfan i St. Pauli, sydd yn aros ar frig y 2. Bundesliga.

Yn yr Eidal, nid oedd Ethan Ampadu yng ngharfan Venezia ar gyfer eu gêm yn erbyn Verona ddydd Sul gan iddo gasglu ei bumed cerdyn melyn o’r tymor yn y golled ganol wythnos yn erbyn Atalanta.

Nid oes perygl i Aaron Ramsey gasglu unrhyw gardiau melyn ag yntau allan o garfan Juventus o hyd. Mae’n anodd gweld y Cymro yn aros yn yr Eidal yn llawer hirach gyda’r sïon yn ei gysylltu â symudiad yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr yn cynyddu.

Parhau i fod allan o garfan Real Madrid oherwydd anaf y mae Gareth Bale hefyd.