Mae Pencampwriaeth Snwcer Agored yr Alban yn dechrau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 6) – yn Venue Cymru yn Llandudno.
Cafodd y gystadleuaeth ei symud o’r Emirates Arena yn Glasgow – lleoliad y twrnament rhwng 2016 a 2019 – am resymau cytundebol.
Dywedodd y trefnwyr nad oedd lleoliad arall ar gael yn y wlad.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros gyfnod o wythnos, gyda’r pencampwr yn cael ei goroni ddydd Sul (Rhagfyr 12) ac yn derbyn Tlws Stephen Hendry.
Y Sais Mark Selby oedd enillydd diwetha’r gystadleuaeth.
‘Siom’
“Cawson ni ein siomi gan y penderfyniad hwn, yn enwedig am iddo ddod ddiwrnod yn unig cyn i’r swyddfa docynnau agor,” meddai’r trefnwyr WST.
“Fe wnaeth hyn ein gadael ni’n methu dod o hyd i leoliad arall yn yr Alban i gynnal y digwyddiad – aethon ni drwy’r holl bosibiliadau ond doedd gan yr un o’r opsiynau amgen ddyddiadau perthnasol ar gael.
“Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn ergyd i gefnogwyr yn yr Alban a chwaraewyr i golli allan ar dwrnament yn eu gwlad eu hunain y tymor hwn.
“Rydym yn llwyr fwriadu dychwelyd y digwyddiad i’r Alban ar gyfer tymor 2022/23.
“Er gwaetha’r siom yma, rydym wrth ein boddau o gael cynnal y digwyddiad yn Llandudno, sydd wedi profi ei fod yn lleoliad gwych ar gyfer ystod o’n digwyddiadau yn y gorffennol ac sydd bob amser wedi cael cefnogaeth wych ymhlith ein cefnogwyr yng ngogledd Cymru a thu hwnt.”
Bydd y gystadleuaeth yn fyw ar Eurosport, Quest a sawl sianel a llwyfan arall ledled y byd, ac mae’n cyfrannu at y rhestr ddetholion gyda gwobr o £150,000 ar gael ar draws wyth twrnament.
Trefn gemau’r Cymry
Yn y rownd gyntaf heddiw, bydd Dominic Dale yn herio Ronnie O’Sullivan.
Bydd Ryan Day yn wynebu Gao Yang ddydd Mercher (Rhagfyr 9).