Roedd hi’n benwythnos cyffrous yn y Cymru Premier, gyda digonedd o goliau, drama – ac ymddiswyddiad.

Dydd Gwener, 3 Rhagfyr

Aberystwyth 1-0 Cei Connah: Fe darodd Paulo Mendes yn erbyn un o’i gyn glybiau ar ôl hanner awr i barhau â rhediad da Cei Connah a’u codi i’r pedwerydd safle.

Gadawodd y canlyniad Aberystwyth yn y nawfed safle.

Y Bala 1-4 Y Seintiau Newydd: Ddangosodd y Seintiau ddim trugaredd wrth iddyn nhw guro’r Bala yn gyfforddus oddi cartref.

Er mai’r tîm gartref gafodd y gair olaf drwy gôl gysur Chris Sang, roedd y difrod eisoes wedi ei wneud gyda Ben Clark, Blaine Hudson, Declan McManus a Jordan Williams yn sgorio i’r Seintiau.

Dydd Sadwrn, 4 Rhagfyr

Caernarfon 1-2 Penybont: Sgoriodd Sam Snaith ar ôl pum munud i roi Penybont ar y blaen cyn i Mike Hayes unioni’r sgôr.

Ond ym munudau olaf y gêm, fe rwydodd Steve Evans o gôl ei hun gan roi’r fuddugoliaeth i Benybont, sydd wedi codi uwchben Cei Connah i’r pedwerydd safle.

Derwyddon Cefn 1-3 Met Caerdydd: Sicrhaodd Met Caerdydd eu buddugoliaeth gyntaf mewn chwe gêm i symud allan o’r ddau safle isaf.

Mae Derwyddon Cefn, ar y llaw arall, yn dal ar waelod y tabl.

Rhoddodd Adam Roscrow Met Caerdydd ar y blaen wedi 20 munud, cyn i Charley Edge unioni’r sgôr.

Llwyddodd Harry Owen i adfer mantais Met Caerdydd, cyn i Adam Roscrow sgorio ei ail a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Y Fflint 4-1 Hwlffordd: Mae’r Fflint wedi dal eu gafael ar yr ail safle gyda buddugoliaeth swmpus dros Hwlffordd.

Fodd bynnag, mae’r canlyniad wedi arwain at Hwlffordd yn disgyn yn ôl i’r ddau isaf.

Sgoriodd Kai Edwards, Michael Wilde a Jack Kenny wrth i’r Fflint ddechrau’r gêm ar dân.

Danny Williams atebodd i Hwlffordd, ond sgoriodd Jack Kenny ei ail gyda deng munud yn weddill.

Fe wnaeth Wayne Jones, rheolwr Hwlffordd, ymddiswyddo yn dilyn y canlyniad.

Y Drenewydd 2-1 Barry Town United: Daeth y Drenewydd, sy’n drydydd, o’r tu ôl i gwblhau’r dwbl dros y Barri ym Mharc Latham.

Rhoddodd Jordan Cotterill y Barri ar y blaen wedi 18 munud, ond golygodd goliau yn ail hanner gan James Davies a George Hughes fod y Drenewydd yn ennill am y tro cyntaf mewn tair gêm.

Y Tabl