Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi ymadawiad eu Pennaeth Recriwtio.

Daw’r cyhoeddiad ynghylch Andy Scott yn dilyn ailstrwythuro o fewn y clwb yn ddiweddar.

Bydd y cyfrifoldeb am recriwtio bellach yn cael ei osod ochr yn ochr â dwy swydd newydd fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ond mae’r clwb yn dweud y bydd y swyddi hynny’n canolbwyntio ar adnabod a chaffael chwaraewyr.

Bydd Mark Allen, y Cyfarwyddwr Chwaraeon, yn goruchwylio’r broses ac yn parhau i gydweithio’n agos â Russell Martin, y prif hyfforddwr, a’r prif weithredwr Julian Winter.

Cafodd Andy Scott ei benodi i’w swydd yn 2019 ar ôl cyfnodau gyda chlybiau Brentford a Watford, gan oruchwylio sawl ffenest drosglwyddo.

Dywed Julian Winter ei fod e wedi gwneud “llawer iawn o waith da yn ystod ei gyfnod yma”, a bod y ddau wedi dod i gytundeb ynghylch ei ddyfodol.

“Mae recriwtio da yn sylfaenol bwysig i’r clwb, a gyda ffenest drosglwyddo Ionawr ar y gorwel, rydyn ni mewn sefyllfa lle gallwn fwrw iddi gyda’n cynlluniau ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir,” meddai.

Yn ôl Andy Scott, mae strwythur y clwb ar hyn o bryd “wedi’i adeiladu fesul cam mewn modd strategol dros y ddwy flynedd diwethaf”.

Dywed fod strwythur yn “amhrisiadwy” i glybiau pêl-droed, gan dynnu sylw at y symiau isel dalodd yr Elyrch am Joel Piroe a Ryan Manning.

Mae’r clwb wedi diolch i Andy Scott gan ddymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.