Mae’r Scarlets wedi ildio gêm Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Bristol Bears dydd Sadwrn (11 Rhagfyr) gan fod y mwyafrif llethol o’u carfan mewn cwarantin ym Melffast.

Oni bai am y 32 o chwaraewyr sy’n hunanynysu ym Melffast, mae gan y rhanbarth 14 chwaraewr ffit yn hyfforddi ym Mharc y Scarlets.

Mae saith o’r 14 yna yn rhan o’r garfan hŷn, gyda’r saith chwaraewr arall ar gytundebau datblygedig.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu bod rhaid i’r garfan a ddychwelodd o Dde Affrica hunan ynysu am 10 diwrnod mewn gwesty tu allan i Belffast.

O ganlyniad i hyn mae’r Scarlets yn annog trefnwyr y twrnament Cwpan Pencampwyr Ewrop i ailfeddwl ei safle ar aildrefnu gemau.

Mae rheoliadau cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop yn datgan os nad yw tîm yn gallu cystadlu mewn gêm ei bod yn ildio ac yn colli 28-0.

Roedd y Gweilch wedi bod yn barod i fenthyg chwaraewyr i’r Scarlets ar gyfer gêm Bryste.

Ond gwrthododd Rygbi Clwb Proffesiynol Ewrop lacio rheolau sy’n nodi na all dîm sydd eisoes yn cystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop fenthyg chwaraewyr i dîm arall.

“Nid yw ein cosbi yn gwneud synnwyr”

“Os ydym am chwarae Bryste heb y chwaraewyr sydd ym Melffast ar hyn o bryd mae yna bedwar neu bump safle lle nad oes gennym chwaraewr i lenwi’r bwlch,” meddai Cadeirydd Gweithredol y Scarlets, Simon Muderack.

“Nid ydym yn dod allan o gwarantin tan 10 Rhagfyr a fydd llawer o’r bois ym Melffast heb chwarae gêm o rygbi ers 22 Hydref.

“Mae angen i EPCR edrych ar les ein chwaraewyr yn y sefyllfa yma.

“Heb y 32 o chwaraewyr sydd mewn cwarantin, bydd rhaid i ni chwarae chwaraewyr datblygedig ac academi – gyda rhai ohonyn nhw yn eu tymor cyntaf o rygbi ar ôl gorffen ysgol.

“Ni fydd hynny’n beth da er tegwch y gystadleuaeth a’r chwaraewyr.

“Nid yw ein cosbi yn gwneud synnwyr i mi ac mae angen ffeindio ateb gwell.

“Nid yw’n deg ein bod yn gorfod ildio’r gêm am rywbeth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Mae gan y Scarlets hanes balch yn y gystadleuaeth Ewropeaidd ac rydym wedi edrych ymlaen at brofi ein hunain yn erbyn dau dîm sydd wedi cystadlu ar y lefel uchaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n siomedig iawn ni fyddwn yn gallu mynd ar y cae a chystadlu.”