Mae timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi darganfod pwy yw eu gwrthwynebwyr yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 6), wrth i dimau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth ymuno â’r gystadleuaeth.

Bydd Caerdydd yn croesawu Preston, tra bydd gan yr Elyrch wrthwynebwyr o’r Uwch Gynghrair, Southampton.

Dydy Abertawe erioed wedi chwarae yn erbyn Southampton yn y gwpan, ond y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd yn 2018, roedd buddugoliaeth Southampton yn golygu bod yr Elyrch gam yn nes at ostwng i’r Bencampwriaeth.

Bydd y gemau’n cael eu cynnal rhwng Ionawr 7-10.