Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad a fydd yn trafod diwygio’r dreth gyngor.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw ymrwymo i wneud hynny yn eu Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Y bwriad yw sicrhau bod cyfraniadau gan aelwydydd yn deg, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn parhau i dderbyn digon o arian.

Mae rhai o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried gan yr Adran Gyllid a Llywodraeth Leol fel a ganlyn

  • cynnal proses ailbrisio,
  • adolygu’r Cynllun Gostyngiadau, a
  • gwerthuso gostyngiadau, esemptiadau a phremiymau.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod hefyd “opsiynau ar gyfer diwygio mwy sylfaenol yn y tymor hwy”.

Cyhoeddiad

Heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 7), cyhoeddodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y byddan nhw’n cynnal ymgynghoriad y flwyddyn nesaf.

“Rydyn ni eisiau moderneiddio system y dreth gyngor a’i gwneud yn fwy teg,” meddai.

“Rydyn ni eisiau gwneud y dreth gyngor yn fwy graddoledig o ran ei dyluniad a’i darpariaeth.

“Bydd hwn yn ddarn pwysig o waith a bydd yn bwysig, drwy’r ymgynghoriad rydyn ni’n ei lansio’r flwyddyn nesaf, ein bod yn gwrando ar safbwyntiau pobol ac yn edrych ar yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod tymor y Senedd hon – yn ogystal â pheidio â diystyru’n llwyr y posibilrwydd ar gyfer diwygiadau eraill a mwy sylfaenol yn y tymor hwy.

“Ni fydd newidiadau yn cael eu gwneud yn syth a bydd yn bwysig canolbwyntio gwaith ar y cerrig sylfaen cynnar sy’n ofynnol ar gyfer newid, gan gynnwys ailbrisio.

“Rydw i eisiau sicrhau diwygio ystyrlon, gyda syniadau sydd wedi’u hystyried yn ofalus a chyfle i bawb ddweud eu dweud arnyn nhw.”

‘Hen, annheg a chamarweiniol’

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â Grŵp Senedd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

“Bydd Plaid Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru i ddiwygio system drethu sy’n hen, yn annheg ac yn gamarweiniol,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Arweiniol Dynodedig Plaid Cymru.

“Rydyn ni wedi dadlau ers tro fod y system bresennol yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac mae’n hen bryd inni gael newid.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu system fwy teg a graddoledig wrth inni roi ein cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru ar waith.”