Bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi dechrau cyflymu’r rhaglen yn barod, ac ar hyn o bryd, maen nhw’n rhoi mwy na 19,000 o frechiadau’r diwrnod.
Nod Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf yw rhoi mwy na 200,000 o frechiadau’r wythnos, meddai’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
Cafodd y rhaglen frechu ei hymestyn a’i chyflymu yn sgil dyfodiad amrywiolyn Omicron.
Bydd byrddau iechyd yn cyflymu’r brechu drwy ddarparu mwy o ganolfannau brechu mewn lleoliadau sy’n hawdd i’w cyrraedd, gan gynnwys clinigau brechu galw i mewn a thrwy ffenestr y car.
Ynghyd â hynny, bydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i roi brechiadau a bydd llywodraeth leol, gwasanaethau tân a myfyrwyr yn darparu cymorth i glinigau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gymorth gan y lluoedd arfog hefyd.
“Achub bywydau”
Flwyddyn yn ôl i fory (8 Rhagfyr), cafodd y brechiad Covid-19 cyntaf ei roi yng Nghymru, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae 5 miliwn o frechlynnau wedi cael eu rhoi drwy ddefnyddio 58 canolfan frechu, 46 ysbyty, a dros 400 fferyllfa neu feddygon teulu.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, bod yr hyn sydd wedi’i gyflawni o ran brechlynnau “wedi bod yn wirioneddol eithriadol”.
“Diolch i ymdrech ar lefel fyd-eang na welwyd ei thebyg o’r blaen, mae gennym sawl brechlyn llwyddiannus, effeithiol a diogel ac rydyn ni wedi cyrraedd y mwyafrif helaeth o’n poblogaeth.
“Fodd bynnag, mae effaith y brechlynnau yn lleihau dros amser felly mae’n bwysig iawn bod pobl yn dod i gael eu brechiad atgyfnerthu pan fyddant yn cael eu gwahodd er mwyn eu diogelu am gyfnod estynedig.
“Mae miliynau o bobl wedi cael brechlyn. Mae’r brechlynnau wedi achub bywydau ac maen nhw wedi helpu i atal salwch difrifol mewn degau o filoedd o bobl.
“Rydw i am nodi’n swyddogol pa mor ddiolchgar ydw i am gyfraniad pawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu yng Nghymru. Diolch am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf a diolch iddyn nhw hefyd am eu help dros yr wythnosau sydd i ddod.”
“Blaenoriaeth i’ch apwyntiad”
Bydd unigolion yn dal i gael eu galw am y brechiad yn ôl trefn apwyntiad, gan ddibynnu ar eu hoedran a pha mor agored i niwed ydyn nhw.
“Arhoswch am eich gwahoddiad cyn i chi ddod i gael eich brechiad atgyfnerthu,” ychwanegodd Eluned Morgan.
“Rhowch flaenoriaeth i’ch apwyntiad cyn popeth arall i gefnogi’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed yn ein canolfannau brechu, gan dreulio ail gyfnod yr ŵyl yn helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
“Gyda lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta yn y gymuned ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, gallwch barhau i amharu ar drosglwyddiad y feirws drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael prawf, hunanynysu pan fyddwch wedi cael canlyniad positif a chael eich brechu.”
Mae dros 80% o bobol 65 oed a throsodd wedi cael eu brechiad atgyfnerthu, ac mae gofyn i bobol sydd dros yr oedran hwnnw a heb ei gael, gysylltu â’r bwrdd iechyd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol ddoe (6 Rhagfyr) ei bod hi’n “foesol anghywir” i beidio â rhannu brechlynnau â gwledydd ar incymau isel.