Mae hi’n “foesol anghywir” fod gwledydd incwm uchel yn gwrthod rhannu brechlynnau Covid gyda gwledydd incwm isel, yn ôl llefarydd materion rhyngwladol Plaid Cymru.

Brechu cymaint o’r boblogaeth fyd-eang â phosib yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer “amrywiolion sy’n achosi pryder”, meddai Heledd Fychan, yr Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru yng Nghanol De Cymru.

Dim ond 8% o’r boblogaeth mewn gwledydd incwm isel sydd wedi derbyn un dos o’r brechlyn hyd yn hyn, meddai.

Ddydd Iau (Rhagfyr 2), cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw wedi prynu 200m o frechlynnau ychwanegol i’w defnyddio yma dros y flwyddyn nesaf, i fynd i’r afael â Omicron ac amrywiolyn sy’n achosi pryder eraill yn y dyfodol.

Cafodd yr achos cyntaf o Omicron ei ganfod yng Nghymru ddydd Gwener (Rhagfyr 3), ac mae’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

‘Moesol anghywir’

“Mae’n foesol anghywir y gall gwledydd incwm uchel fod yn cadw miliynau o frechlynnau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, tra mai dim ond 8% o’r boblogaeth o wledydd incwm isel sydd wedi cael pigiad,” meddai Heledd Fychan.

“Yr wythnos hon, rydym wedi cael ein hatgoffa fod y feirws yn newid ac yn esblygu pan fo’n cael ei drosglwyddo yn fyd-eang.

“Ar yr un pryd, mae’r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei bod wedi archebu 200 miliwn o frechlynnau ar gyfer poblogaeth o 67m – 89% ohonynt eisoes wedi derbyn o leiaf un pigiad.

“Wrth baratoi ar gyfer amrywiolion sy’n peri pryder yn y dyfodol, mae San Steffan wedi methu â sylweddoli mai’r defnydd gorau o frechlynnau yw ym mreichiau’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Y gwir anochel yw mai dim ond pan allwn atal y feirws hwn drwy raglen frechu fyd-eang y daw ein rhyddid.”

Mae Heledd Fychan eisoes wedi beirniadu llywodraethau am wastraffu brechlynnau am eu bod nhw wedi troi’n anaddas i’w defnyddio.

Ym mis Medi, dywedodd Llywodraeth Cymru fod 40,000 dos o frechlyn AstraZeneca wedi’u dinistrio, tra bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod 600,000 dos wedi’u dinistrio yn y Deyrnas Unedig.