Mae 150 o adnoddau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi addysg bellach a phrentisiaid, gan “normaleiddio’r Gymraeg a pharatoi gweithlu sy’n ddwyieithog”.

Bydd yr adnoddau ar y Porth Adnoddau, gwefan adnoddau’r Coleg Cymraeg, yn cefnogi addysgwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i bob dysgwyr a phrentis waeth sut sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw.

Mae’r Coleg Cymraeg wedi arwain prosiect cenedlaethol i greu a diweddaru dros 150 o adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog mewn pedwar pwnc blaenoriaeth – Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amaeth.

Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymru, sy’n anelu tuag at gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog addysg uwch a phrentisiaethau.

Ar hyn o bryd, mae canran isel iawn o weithgareddau addysg ôl-16 oed yn digwydd drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog.

‘Effaith bellgyrhaeddol’

Mae sicrhau bod adnoddau addas ar gael i ymarferwyr, darlithwyr a hyfforddwyr yn “allweddol” i wireddu amcanion y cynllun, yn enwedig wrth ystyried mai canran gymharol isel o’r gweithlu sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, meddai’r Coleg Cymraeg.

Yn ôl rheolwr y prosiect, Dr Lowri Morgans, Rheolwr Academaidd gyda’r Coleg Cymraeg, bydd y prosiect yn cael effaith bellgyrhaeddol ar amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth i “ddatblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy’n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle”.

“Nod y prosiect yw sicrhau bod adnoddau dysgu cyfunol o’r radd flaenaf ar gael yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng Cymraeg o Lefel 1 i 3 ar draws y meysydd blaenoriaeth,” meddai Dr Lowri Morgans.

“Mae ein cydlynwyr pwnc sy’n arbenigwyr profiadol yn eu meysydd wedi cydweithio gydag arbenigwyr e-ddysgu i sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi eu datblygu yn cwrdd ag anghenion darlithwyr ac ymarferwyr yng Nghymru ac yn llenwi’r bylchau a adnabuwyd o ran diffyg adnoddau Cymraeg a dwyieithog.”

‘Angen adnoddau dwyieithog’

Mae’r prosiect yn cynnwys creu neu ddiweddaru 14 adnodd ym maes Gofal Plant, gan gynnwys posteri geirfa ddwyieithog ar gyfer y pwnc.

Dywedodd Joanne DeBurgh, sy’n ddarlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Penybont, fod pob adnodd wedi bod yn ddefnyddiol.

Rydyn ni wedi argraffu’r holl bosteri ar bapur A3 ac maen nhw wedi cael eu gosod ym mhob ystafell ddosbarth,” meddai.

“Hefyd, yn yr adran Gofal Plant, mae copïau A5 wedi cael eu rhoi yn llyfrau’r myfyrwyr er mwyn helpu gydag unrhyw dasgau ble mae angen y termau yn y Gymraeg.

“Rydyn ni angen adnoddau dwyieithog gan nad oes gennym ni lawer o fyfyrwyr sydd yn dod o ysgolion neu deuluoedd Cymraeg.

‘Hwyluso addysgu dwyieithog’

Mae 16 o’r adnoddau’n ymwneud â maes Iechyd a Gofal, a dywedodd Moli Harrington, sy’n ddarlithydd yn y pwnc yng Ngholeg Merthyr Tudful, ei bod hi’n “wych” gweld bod y Coleg Cymraeg wedi cymryd yr amser i gasglu a diweddaru cyflwyniadau roedd staff y sector wedi’u creu’n barod.

“Mae rhannu adnoddau ymysg gwahanol Golegau yn hwyluso addysgu dwyieithog o fewn y maes Iechyd a Gofal ar draws Cymru ac yn rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar ein dysgwyr,” meddai.

“Edrychaf ymlaen at weld pa adnoddau fydd yn cael eu rhoi ar Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg nesaf.”

‘Iaith normal a naturiol’

Dywed Carolann Healy, sy’n ddarlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr, fod y 62 adnodd sydd wedi cael eu creu a’u diweddaru ar gyfer y pwnc wedi cael derbyniad da gan y myfyrwyr a’r darlithwyr.

“Mae’r Gymraeg nawr yn cryfhau ei hun fel iaith normal a naturiol yn ein colegau addysg bellach, ac yn paratoi gweithlu sy’n ddwyieithog,” meddai.

“Mae’r adnoddau yma hefyd yn ffordd o gryfhau sgiliau iaith myfyrwyr mewn meysydd newydd ac i rai sydd efallai heb ymarfer yr iaith ers dyddiau ysgol.”

‘Help mawr’

Yn ôl David John, darlithydd mewn Amaeth yng Ngholeg Penybont, mae’r 63 adnodd ar gyfer y maes yn “rhagorol” ac yn “help mawr yn enwedig i gyflwyno pwnc newydd”.

“Rydw i’n hoff iawn eich bod yn gallu toglo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd,” meddai.