Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd Ynysoedd Solomon wedi methu yn dilyn protestiadau treisgar yn y brifddinas fis diwethaf.

Yn ystod araith 90 munud, dywedodd y Prif Weinidog Manasseh Sogavare wrth aelodau seneddol nad oedd e wedi gwneud dim o’i le, ac na fyddai’n ymostwng i “rymoedd dieflig” nac i “asiantau Taiwan”.

Gafaelodd mewn cadair a dechrau ei tharo yn erbyn llawr y Senedd ar un adeg yn ystod yr araith er mwyn pwysleisio ei bwynt.

Yn ystod y ddadl a gafodd ei chynnig gan Matthew Wale, arweinydd yr wrthblaid, fe wnaeth gwrthwynebwyr gyhuddo’r arweinydd a’i lywodraeth o ddweud celwydd, dwyn, a defnyddio arian Tsieinïaidd i aros mewn grym.

Yn y pen draw, enillodd Manasseh Sogavare y bleidlais o 32 i 15, gyda dau’n ymatal.

Protestiadau

Datblygodd protest heddychlon yn Honiara yn brotestiadau treisgar, gan adlewyrchu gelyniaethau rhanbarthol, problemau economaidd a phryderon am gysylltiad cynyddol y wlad â Tsieina.

Roedd y protestwyr yn galw ar y prif weinidog i gamu o’r neilltu yn sgil y materion hyn, ac aethon nhw i mewn i adeilad y Senedd Genedlaethol a llosgi to adeilad cyfagos, gorsaf heddlu ac adeiladau eraill.

Mae milwyr a’r heddlu o Awstralia, Ffiji, Seland Newydd a Papua Guinea Newydd wedi bod yn helpu i gadw’r heddwch yno, ar gais llywodraeth Ynysoedd Solomon.

 

Awstralia’n ceisio mynd i’r afael â phrotestiadau treisgar ar Ynysoedd Solomon

Ail ddiwrnod o brotestiadau yn erbyn y llywodraeth wrth i bobol barhau i anwybyddu cyfyngiadau clo