Mae Boris Johnson wedi addo rhoi stop ar 2,000 o “linellau cyffuriau sirol” yng Nghymru a Lloegr mewn ymgais i gael gwared ar gyffuriau anghyfreithlon.

Bydd £300m yn mynd tuag at strategaeth ddeng mlynedd, a bydd yr heddlu’n canolbwyntio ar dorri cyflenwadau cyffuriau dosbarth A sy’n cael eu dosbarthu gan gangiau cyffuriau mewn dinasoedd i ardaloedd cyfagos.

Bydd cynnydd mewn buddsoddi tuag at gynlluniau adfer hefyd, meddai Llywodraeth San Steffan, mewn ymdrech i dorri’r cylch o ddibyniaeth a throseddu dro ar ôl tro.

Mesurau

Mae’r mesurau sy’n rhan o’r strategaeth yn cynnwys profi mwy o bobol am gyffuriau pan maen nhw’n cael eu harestio, ac annog yr heddlu i gyfeirio unigolion sy’n profi’n bositif tuag at driniaeth neu gyrsiau ymwybyddiaeth.

Gallai gynnwys sancsiynau troseddol ar gyfer y rhai sy’n parhau i ddefnyddio cyffuriau.

Bydd gan farnwyr y grym i orchymyn bod troseddwyr sy’n cwblhau dedfrydau cymunedol am droseddau’n ymwneud â chyffuriau’n cael eu profi, ac mae’n bosib y bydden nhw’n mynd i’r carchar pe baen nhw’n profi’n bositif.

Pan fydd delwyr yn cael eu harestio, bydd yr heddlu’n cael cymryd eu ffonau a’u defnyddio nhw i yrru negeseuon at gleientiaid yn eu hannog i beidio defnyddio cyffuriau a’u cyfeirio nhw at gefnogaeth.

Pwrpas y mesur hwnnw yw cael gwared ar y teimlad o fod yn anhysbys wrth brynu cyffuriau, drwy sicrhau bod prynwyr yn ymwybodol fod yr heddlu’n gwybod beth sy’n digwydd.

Bydd y mesurau atal hyn yn cael eu defnyddio ochr yn ochr ag ymgyrch i dargedu llinellau cyffuriau sirol.

‘Pla yn ein cymdeithas’

Bydd yr heddlu’n cynnal 6,400 o “amhariadau” er mwyn targedu troseddwyr cyfundrefnol, gan dargedu rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd.

Mewn cyfweliad gyda’r Sun On Sunday, dywedodd Boris Johnson y gallai gynnwys troseddwyr yn colli eu pasbortau a’u trwyddedau gyrru.

“Mae cyffuriau’n bla yn ein cymdeithas, yn annog trais ar ein strydoedd, ac mae cymunedau dros y wlad yn gorfod goddef hynny,” meddai Boris Johnson cyn lansio’r strategaeth.

“Dyma pam mae’n rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion i gael gwared ar y gangiau llinellau cyffuriau erchyll sy’n difetha ein cymdogaethau, yn ecsbloetio plant, a dinistrio bywydau, er mwyn cael gwared ar droseddau a gwneud pob rhan o’r wlad yn hafal.”

‘Dadwneud y difrod’

Dywed Yvette Cooper, sy’n aelod o gabinet cysgodol y Blaid Lafur yn San Steffan, fod y gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hwyr o ystyried bod defnydd cyffuriau dosbarth A wedi codi 27% ers 2010.

“Mae mwy na £100m wedi cael ei dorri o’r gwasanaethau triniaeth, ac mae toriadau i gyllidebau heddlu’n golygu bod timau cyffuriau wedi gorfod camu’n ôl, gan adael i gangiau dyfu, delio gynyddu, a galw godi,” meddai.

“Mae’n rhaid i unrhyw weithredu gan y Llywodraeth fod yn sylweddol er mwyn dadwneud y difrod maen nhw wedi’i achosi.”