Mae rhoi Nigeria ar restrau teithio coch wedi cael ei ddisgrifio fel “aparteid teithio”.

Mae llywodraethau Cymru a Deyrnas Unedig wedi gosod cyfyngiadau newydd ar bobol sy’n teithio o’r wlad.

O 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 6), bydd rhaid i unrhyw un sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o Nigeria dreulio deng niwrnod yn hunanynysu mewn gwesty cwarantîn a chael dau brawf PCR negyddol.

Daw’r camau newydd wrth i wleidyddion geisio mynd i’r afael â’r amrywiolyn newydd, Omicron.

Mae Sarafa Tunji Isola, Uwch Gomisiynydd Nigeria yn Llundain, ac Antonio Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn gytûn fod y cyfyngiadau teithio o wledydd Affricanaidd yn gyfystyr ag “aparteid teithio”.

“Mae Nigeria yn cytuno â safbwynt Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig mai aparteid yw’r gwaharddiad teithio, yn yr ystyr nad ydyn ni’n sôn am sefyllfa endemig, rydyn ni’n ymdrin â sefyllfa pandemig a’r hyn sydd i’w ddisgwyl yw camau byd-eang, ac nid rhai dethol,” meddai Sarafa Tunji Isola wrth raglen Today ar Radio 4.

“Mae [Omicron] wedi cael ei ddosbarthu fel amrywiolyn ysgafn – dim ysbyty, dim marwolaeth.

“Felly mae’r mater yn eithaf gwahanol i’r amrywiolyn Delta, hynny yw, rhaid ffurfio barn ar sail tystiolaeth wyddonol ac imperialaidd.

“Dydy hi ddim yn rhyw fath o sefyllfa o banig.”

‘Iaith anffodus iawn’

Yn ôl Kit Malthouse, gweinidog plismona Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r defnydd o’r ymadrodd ‘aparteid teithio’ yn “iaith anffodus iawn”.

“Rydyn ni’n deall yr anawsterau sydd wedi’u creu gan y cyfyngiadau teithio hyn, ond rydyn ni’n ceisio prynu rhywfaint o amser fel bod ein gwyddonwyr yn Porton Down yn gallu gweithio ar y feirws ac asesu pa mor anodd fydd hi i ni ymdopi ag e fel gwlad,” meddai.

Yn ôl y llywodraeth, mae rhan fwya’r achosion yn y Deyrnas Unedig yn deillio o deithio dramor, yn enwedig o Dde Affrica a Nigeria.

Cymru’n rhoi Nigeria ar y rhestr deithio goch

Daw hyn yn sgil yr amrywiolyn Omicron ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau tebyg