Mae Nigeria wedi cael ei rhoi ar restr deithio goch Cymru o ganlyniad i bryderon am yr amrywiolyn newydd Omicron.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau tebyg.

Bydd y wlad Affricanaidd ar y rhestr o 4 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Rhagfyr 6).

“Ni chaniateir i deithwyr o wledydd ar y rhestr goch ddod i mewn i Gymru, ond rhaid iddynt ddod i mewn drwy borth mynediad yn Lloegr a mynd i gyfleuster cwarantin a reolir am 10 diwrnod,” meddai’r Llywodraeth.

“Tra bod y teithiwr mewn cyfleuster cwarantin rhaid iddynt hefyd gael prawf PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.

“Rydym hefyd yn ailgyflwyno gofyniad Prawf 48 awr Cyn Gadael ar gyfer pob teithiwr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i deithwyr gael prawf PCR neu LFD negatif mor agos â phosibl at eu hamser gadael cyn y gallant deithio.”