Mae swyddogion Palesteina a grwpiau hawliau dynol wedi beirniadu’r heddlu am saethu dyn Palesteinaidd yn farw ar ôl iddo drywanu pobol yn Nwyrain Jerwsalem.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae heddlu Israel wedi cyhoeddi fideo o safle’r ymosodiad yn Hen Ddinas Jerwsalem ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4).

Mae’r fideo yn dangos dyn o Balesteina – sydd wedi’i adnabod fel Mohammad Salima, dyn 25 oed – yn trywanu dyn Iddewig cyn mynd at yr heddlu a chael ei saethu’n farw.

Mae fideo arall yn dangos yr heddlu’n parhau i saethu’r dyn ar lawr.

Dyn 20 oed oedd wedi cael ei drywanu, ac mae e mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Swyddfa Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dweud eu bod nhw wedi cael “sioc” yn sgil gweithred yr heddlu.

Maen nhw’n dweud bod marwolaethau o’r fath yn cael eu hachosi gan “ormod o rym gan bersonél diogelwch Israel sydd wedi’u gwarchod yn dda a’u harfogi”, a bod yna “ddiffyg atebolrwydd” wrth i luoedd Israel ladd ac anafu Palestiniaid.

Yn ôl Gweinyddiaeth Gyfiawnder Israel, cafodd dau blismon eu holi wedi’r digwyddiad, a’u rhyddhau’n ddiamod, ac mae’r prif weinidog Naftali Bennett yn dweud bod gan y plismyn ei “gefnogaeth lawn” gan eu bod nhw “wedi gweithredu yn ôl y disgwyliadau ar gyfer swyddogion Israel”.

Beirniadaeth

Ond mae Awdurdod Palesteina wedi beirniadu’r heddlu hefyd, gyda’r Llywydd Mahmoud Abbas yn dweud bod y weithred o ladd “yn barhad o ymosodiadau parhaus Israel ar bobol Palesteina na ddylid ei oddef”.

Mae Mohammad Shtayyeah, arweinydd Palesteina, yn dweud bod hon yn “drosedd o ddienyddio”, ac mae’n galw am ychwanegu’r digwyddiad at ymchwiliad i droseddau rhyfel gan Israel.

Mae gwleidyddion ym Mhalesteina yn cytuno, ar y cyfan, gydag un yn dweud mai sefyllfaoedd o’r fath yw’r “realiti sydd wedi’i chreu” o feddiannu Palesteina.

Dywed eraill mai dim ond “er mwyn achub bywydau” y dylid saethu unigolion.