Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnig coeden am ddim i bob aelwyd ei phlannu fel rhan o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Fel rhan o’r cynnig, mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn dweud y bydd gan bob aelwyd ddewis rhwng plannu coeden eu hunain neu i gael coeden wedi’i phlannu ar eu rhan.

Cafodd y cynllun ei lansio yn ystod ymweliad â phrosiect creu coetiroedd Coed Cadw yng Nghastell-nedd, prosiect sydd wedi ffurfio partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed.

Bydd modd casglu’r coed cyntaf o fis Mawrth o un o bum canolfan gymunedol ranbarthol, a’r nod yw sefydlu 20 o ganolfannau eraill ledled Cymru erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf.

Archwiliad

Yn gynharach eleni, arweiniodd Lee Waters archwiliad dwfn i goed a phren, gan nodi cyfres o gamau i’w cymryd er mwyn osgoi effeithiau trychinebus newid hinsawdd.

“Mae coed yn anhygoel – maent yn achub bywydau drwy gadw ein haer yn lân,” meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

“Maent yn gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl. Maent yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’n hargyfwng natur, gwella bioamrywiaeth ac, wrth gwrs, ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Mae’r archwiliad dwfn wedi dangos yn glir i mi y bydd gan bawb ran i’w chwarae os ydym am lwyddo i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwireddu ein huchelgeisiau i greu Coedwig Genedlaethol Cymru.

“Felly, rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Coed Cadw i roi ymgyrch ar waith a fydd yn rhoi cyfle i bob cartref yng Nghymru blannu coeden am ddim yng Nghymru.

“Bydd hyn yn ei gwneud yn bosib i bobol yng Nghymru i ddeall a phrofi ymhellach y manteision niferus y gall coed eu darparu, nid yn unig i’r amgylchedd ond hefyd i iechyd a lles pobol.”

‘Gall pawb elwa’

Eglurodd y Dirprwy Weinidog y gallai pawb yng Nghymru elwa ar yr ymgyrch.

“Rydym yn deall na fydd pob cartref yn gallu plannu coeden eu hunain, ond y byddant yn dal yn awyddus i gymryd rhan,” meddai.

“Dyna pam y byddwn yn sicrhau bod opsiwn ar gael i ‘blannu coeden i mi’, a fydd yn caniatáu i bobol ddewis cael coeden am ddim wedi’i phlannu ar eu rhan mewn lleoliadau ledled Cymru drwy’r canolfannau cymunedol a’r gwirfoddolwyr.

“Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau, gan gynnwys lleoliad canolfannau cymunedol yn eich ardal a sut i hawlio’ch coeden, ar gael yn fuan drwy dudalennau gwe amrywiol ond hefyd yn lleol ar lawr gwlad drwy rwydwaith o wirfoddolwyr ym mhob ardal.”

Croesawu’r cydweithio

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y ffordd wych hon i roi coed i gymunedau i sicrhau bod miloedd o goed brodorol yn cael eu plannu yn y ddaear,” meddai Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw.

“Er mai dim ond un ffordd o helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yw plannu coed, mae’n ffordd syml a phleserus i bob unigolyn yng Nghymru gael y cyfle i blannu coeden a’i gwylio’n tyfu.

“Bydd y prosiect hwn yn agored i bob math o bobol sy’n byw yng Nghymru a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli llawer o unigolion a grwpiau cymunedol lleol i gymryd rhan.

“Rydym am gael pobol o bob cefndir yn rhan o broses blannu Coedwig Genedlaethol Cymru.”

Datgelodd y Dirprwy Weinidog hefyd y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio’n gynnar yn 2022 ar gynlluniau i greu Coedwig Genedlaethol Cymru.