Mae’r cam diweddaraf yn ymgyrch Llywodraeth Cymru i warchod pobol rhag Covid-19 yn dechrau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 6) gyda hysbysebion fydd yn para pum wythnos.

Nod yr ymgyrch yw torri trosglwyddiad y feirws, ac fe fydd yn cael ei rhedeg ar y teledu a’r radio, yn y wasg, ac ar lwyfannau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn annog pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau.

Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd gwisgo mygydau, cael brechlyn a phrofion, a hunanynysu.

Bydd negeseuon ychwanegol hefyd yn trafod pwysigrwydd awyru a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu.

Bydd partneriaid y Llywodraeth hefyd yn rhedeg yr ymgyrch ar eu llwyfannau nhw.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn rhedeg ar ffurf posteri mewn canolfannau siopa a ger arosfannau bysys, ac fel hysysebion digidol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok, Snapchat a YouTube.

Mae disgwyl i’r ymgyrch gyrraedd dros 91% o oedolion Cymru, gyda thaflen hefyd yn cael ei hanfon i 1.4m o gartrefi yn y wlad mewn 35 o ieithoedd a fformatau hygyrch.

‘Cyfle i edrych ymlaen at flwyddyn newydd iachach’

“Nod gweithgarwch diweddaraf yr ymgyrch Diogelu Cymru yw annog pobl Cymru i barhau i ddilyn mesurau i atal COVID-19 rhag lledaenu, gan nad yw’r feirws wedi mynd i ffwrdd,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Gyda lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta yn y gymuned, ac ar ôl i’r amrywiolyn Omicron ymddangos, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gofio pa mor beryglus yw’r coronafeirws, ac rydyn ni wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd pobol ac i arafu lledaeniad y feirws.

“Hoffem ddiolch i bawb am helpu drwy gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael y brechlyn, a chael profion, gan hunanynysu os bydd prawf yn bositif.

“Os byddwn ni i gyd yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, bydd cyfle i edrych ymlaen at flwyddyn newydd iachach a mwy llewyrchus.”