Mae mudiadau gwrth-niwclear wedi talu teyrnged i Dr. Carl Clowes yn dilyn cadarnhad ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 6) o’i farwolaeth.
Mewn datganiad ar y cyd gan PAWB a CADNO, dywed y mudiadau iddo “gyfrannu y rhan fwyaf o’i egni gwleidyddol at ymgyrchu yn erbyn ynni niwclear a bygythiad Wylfa B”.
Maen nhw’n dweud bod cynnig rhaglen gadarnhaol “yr un mor bwysig iddo”, ac mai “dyna arweiniodd at gyhoeddi Maniffesto Môn yn enw PAWB”.
Roedd y Maniffesto yn amlinellu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu trydan a syniadau eraill, meddai, a’r “agwedd gadarnhaol hon yn rhan fawr o gymeriad Carl erioed”.
Prif gampau
Ymhlith ei brif gampau dros y blynyddoedd, meddai’r mudiadau, roedd:
- sefydlu Antur Aelhaearn fel menter gydweithredol gymunedol gyntaf gwledydd Prydain
- sefydlu Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn yn 1981, gan gynnig bywoliaeth i bobol leol a denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn
- sefydlu Dolen Cymru Lesotho yn y 1980au
Ond o safbwynt yr ymgyrch yn ebryn niwclear, maen nhw’n dweud iddo sicrhau bod “arolwg proffesiynol o agweddau pobol ym Môn a gogledd Gwynedd at ddulliau cynhyrchu trydan yn cael ei gynnal”.
“Daeth yr arolwg i gasgliadau clir a ddangosai fod cefnogaeth llawer cryfach i ddulliau ynni adnewyddadwy nag ynni niwclear,” meddai.
“Sefydlodd gysylltiadau ymgyrchu â mudiad Urgewald yn yr Almaen a arweiniodd at gyfle iddo fynychu cyfarfod blynyddol cyfranddalwyr y cwmni trydan mawr EO.n. Gwelodd yn y cyfarfod hwnnw fod eu perchnogaeth o gwmni Horizon yn broblem iddynt.
“Teithiodd i Japan ddwy waith i sefydlu cysylltiadau ag ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn y wlad honno ar ôl i Hitachi brynu Horizon oddi wrth y consortiwm Almaenig.
“Arweiniodd ei ail daith fel rhan o ddirprwyaeth o bedwar o Gymru at gael Naoto Kan, oedd yn Brif Weinidog Japan ar adeg trychineb niwclear Fukushima, i ymweld â Chaerdydd ac Ynys Môn.
“Delwedd gofiadwy o’r ymweliad oedd yr un o Carl yn arwain Mr. Kan i fyny grisiau’r Senedd yng Nghaerdydd. Edrychai fel ymweliad gwladwriaethol!
“Esgorodd hyn ar gydymgyrchu brwd rhwng PAWB a Chyfeillion y Ddaear Japan gydag ymweliadau gan aelodau’n dilyn i wledydd ei gilydd.
“Yr hyn sy’n rhyfeddol yw fod Carl wedi gallu cyflawni hyn i gyd ar ben ei yrfa feddygol broffesiynol oedd yn un ddisglair ac arloesol.
‘Cymro i’r carn – y prif weinidog gorau na chafodd Cymru erioed’
“Roedd ei allu, ymroddiad a natur benderfynol yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom Gadawaf y geiriau olaf i ddau o’i gydymgyrchwyr,” medddai wedyn.
Yn ôl Meilyr Tomos ar ran CADNO, roedd Dr. Carl Clowes yn “Gymro i’r carn”.
“Bu’n fraint o’r mwyaf i gael ystyried Carl yn ffrind agos,” meddai Robat Idris ar ran PAWB.
“Dyma’r prif weinidog gorau na chafodd Cymru erioed.”