Mae Dr Carl Clowes, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, wedi marw yn dilyn salwch byr.

Cafodd yr ymddirieolaeth ei sefydlu yn 1978 tra ei fod yn feddyg ym Mro’r Eifl, a chafodd ei benodi’n Gadeirydd yn ystod cyfnod cychwynnol y ganolfan, cyn mynd yn Llywydd yn ddiweddarach.

Ef hefyd oedd cadeirydd cychwynnol Antur Aelhaearn, y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 1974 a gafodd ei sefydlu er mwyn achub yr ysgol leol, ac yn gadeirydd cychwynnol ac yn Llywydd Oes Dolen Cymru, y berthynas rhwng Cymru a Lesotho a gafodd ei sefydlu yn 1985.

Yn gadeirydd ar y Fforwm Iaith Genedlaethol, llywiodd y strategaeth iaith gynhwysfawr gyntaf o ran y Gymraeg a arweiniodd at Ddeddf Iaith 1993.

Wedi’i eni ym Manceinion, dychwelodd ei rieni i ogledd Cymru ac fe aeth ati i ddysgu’r Gymraeg.

Roedd yn aelod o’r Orsedd ar ôl cael ei gydnabod am ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn Gymrawd Iechyd Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am ei gyfraniadau i’r byd meddygol.

Ar ôl cymhwyso’n feddyg yn 1967, treuliodd wyth mlynedd yn gweithio fel meddyg yn Llanaelhaearn yn Llŷn cyn ennill gradd Meistr mewn Meddygaeth Gymdeithasol o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y gwledydd lleiaf datblygedig ac mewn erthygl yn Y Faner, fe alwodd am ragor o gysylltiadau â gwledydd llai datblygedig er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o’r ‘trydydd byd’.

O’r erthygl honno, cafodd cysylltiadau eu magu rhwng Cymru a Lesotho cyn ffurfio partneriaeth swyddogol yn 1985, ac fe aeth Dr Carl Clowes yn gadeirydd ar Dolen Cymru o ganlyniad, cyn cael ei benodi’n Gonswl Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru.

Yn y byd meddygol, fe ddaeth yn Gyfarwyddwr Meddygol ac yn aelod bwrdd anweithredol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n gadael gwraig, Dorothi, a’i blant Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian.

Teyrngedau

Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i Dr Carl Clowes ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth.

Yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd sir ym Mhowys, roedd yn “un a wnaeth lawer, nid yn unig i sbarduno mentrau cymdeithasol ond a fu hefyd yn weithgar iawn yn wleidyddol yma ym Maldwyn ac oedd dw i’n gwybod yn falch o lwyddiannau diweddar yma”.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, roedd yn “weledydd” a oedd “o flaen ei amser”.

Dywedodd Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros etholaeth Blaenau Gwent, fod “ei weledigaeth ar gyfer y Nant yn ysbrydoliaeth ac ond yn rhan o’i gyfraniad”.

Dylai hanes Antur Aelhaearn fod yn rhan o’r cwricwlwm, medd Mabon ap Gwynfor

Alun Rhys Chivers

Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn talu teyrnged i Dr. Carl Clowes

Adeiladu replica o’r Feddygfa lle ganwyd y freuddwyd i sefydlu canolfan iaith Nant Gwrtheyrn

Mae’r feddygfa wreiddiol dal yn Llithfaen, a chymerodd hi dros flwyddyn a hanner i’w ail-chreu tua milltir a hanner lawr y lôn yn Nant Gwrtheyrn

Carl Clowes sy’n cofio’r blynyddoedd cyntaf “anodd”

Roedd y ganolfan iaith wynebu sawl her, meddai