Mae’r ffaith fod “amgylchiadau a gwybodaeth yn datblygu mor gyflym” am amrywiolion Covid-19 yn golygu nad yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto a fydd pasys Covid yn cael eu hymestyn i gynnwys tafarnau a bwytai, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Fe fu’n siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 5), gan ddweud y bydd penderfyniad ynghylch ymestyn y pasys ai peidio yn cael ei wneud “ar y funud olaf”.
Mae disgwyl penderfyniad yr wythnos hon, ar drothwy’r adolygiad nesaf ddydd Gwener (Rhagfyr 10), wythnos ar ôl i’r achos cyntaf o amrywiolyn Omicron gael ei ganfod yng Nghymru.
Yn ôl Mark Drakeford, mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym.
Ar hyn o bryd, mae angen pàs i gael mynediad i sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru – mae hyn yn cynnwys prawf llif unffordd negyddol o fewn y 48 awr diwethaf.
Omicron wedi newid y sefyllfa?
Roedd y Llywodraeth eisoes yn ceisio ymdopi ag amrywiolyn Delta, ond yn ôl Mark Drakeford, dim ond amrywiolyn Omicron sydd wedi eu gorfodi nhw i ystyried ymestyn y pasys i’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru.
“Mae gennym ni wythnos arall i fynd,” meddai.
“Byddwn ni’n dysgu tipyn yn ystod yr wythnos honno am y feirws Omicron.
“Pe baen ni’n ei wneud e, byddai’n syml iawn er mwyn helpu’r busnesau hynny i aros ar agor a pharhau i ddenu cwsmeriaid trwy’r drws oherwydd byddai pobol yn teimlo’n hyderus fod pawb arall yn y lleoliad hwnnw naill ai wedi cael eu brechu neu wedi cael prawf llif unffordd.
“Ond dydyn ni ddim wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a fyddwn ni ddim yn gwneud y penderfyniad hwnnw tan y diwrnod mae’n rhaid i ni ei wneud e, oherwydd mae amgylchiadau a gwybodaeth yn datblygu mor gyflym o amgylch yr amrywiolyn newydd fel y dylech chi aros i gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi.”