Mae dyn 56 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol yn Nhryleg ger Trefynwy.

Mae Heddlu Gwent yn trin ei farwolaeth fel llofruddiaeth.

Cawson nhw eu galw am oddeutu 8.40yh neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 4), ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n dal ar y safle yn cynnal ymchwiliad, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam i gysylltu â nhw.