Roedd sinema sydd wedi cael gorchymyn i gau am wrthod gweithredu pasys Covid yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ar agor eto ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 1).
Fe ddangosodd Cinema & Co y ffilm Nadoligaidd Santa Claus: The Movie am 4.30yp, ddyddiau’n unig ar ôl i’r perchennog Anna Redfern fod gerbron llys am wrthod dilyn y drefn sydd wedi’i hamlinellu gan y Llywodraeth.
Mae hi wedi cael rhybudd gan Gyngor Abertawe y gallen nhw ddwyn achos o ddirmyg llys pe bai’r sinema yn parhau i agor.
Daeth y rhybudd wythnos ar ôl iddi fethu â mynd i’r llys, a dyna pryd wnaeth y Llywodraeth benderfynu bod rhaid cau’r safle.
Mae lle i gredu bod oddeutu 20 o bobol yn yr adeilad i wylio’r ffilm ddoe, a’u bod nhw wedi prynu bwyd o’r tu allan i fynd i mewn i’r sinema ar gyfer y digwyddiad.
Yn ôl y BBC, maen nhw’n gwrthod cadarnhau eu bod nhw’n parhau i agor y safle, a bod rhaid e-bostio ymholiadau, ac mae eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dawel ers rhai diwrnodau.
Yn ôl Anna Redfern, mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n “annheg” ac yn “lladd y diwydiant adloniant”.
Yn sgil ei hymddangosiad gerbron llys, cafodd hi ddirwy o £5,265 ac awgrymodd hi na fyddai hi’n talu’r ddirwy honno.
Dim camau diogelwch
Pan aeth swyddogion o’r Cyngor i’r sinema, daethon nhw i’r casgliad nad oedd camau i ddiogelu cwsmeriaid rhag y feirws wedi’u cymryd.
Doedd dim asesiad risg Covid ar gyfer yr adeilad, doedd dim hylif glanhau dwylo a dim cyfleusterau priodol i olchi dwylo.
Pe bai’r sinema yn parhau i agor a bod Anna Redfern yn mynd gerbron barnwr am ddirmyg llys, mae hi wedi cael rhybudd y gallai hi wynebu cyfnod o garchar.