Mae perchennog sinema wedi cael dirwy o £5,265 am wrthod cau yn sgil gorchymyn Covid-19.
Aeth Anna Redfern, perchennog Cinema & Co yn Abertawe, gerbron ynadon y ddinas heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30) ar ôl iddi wrthod gweithredu pasys Covid.
Cyngor Dinas a Sir Abertawe oedd wedi dwyn achos, ar ôl i’r sinema wrthod cau er iddyn nhw gael gorchymyn i wneud hynny am nad oedden nhw’n cadw at y cyfyngiadau drwy ofyn i gwsmeriaid ddangos eu pasys cyn cael mynediad.
Clywodd y llys nad oedden nhw wedi cwblhau asesiad risg digonol er mwyn atal ymlediad y feirws, nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i’w staff pa gamau i’w cymryd, nad oedd y sinema yn gofyn i gwsmeriaid wisgo mygydau neu i ddilyn unrhyw gamau eraill i’w cadw’n ddiogel.
Doedd gan y lleoliad ddim hylifau glanhau digonol.
Yn ôl y gorchymyn, roedd disgwyl i’r sinema gau am 56 diwrnod neu hyd nes bod tystiolaeth eu bod nhw wedi cymryd camau digonol er mwyn atal ymlediad Covid-19.
Yn sgil yr achos, mae cyhoeddusrwydd i achos y sinema wedi arwain at greu tudalen codi arian i’r sinema, ac mae wedi denu dros £61,000 hyd yn hyn – bron i ddeuddeg gwaith eu dirwy.
Cais i ohirio’r gwrandawiad
Ar ddechrau’r gwrandawiad, gwnaeth Anna Redfern gais i ohirio’r achos am resymau cyfreithiol.
Dywedodd iddi gael gwybod fod y gwrandawiad yn dechrau am 10y.b., ond o ohirio’r achos tan y prynhawn, doedd ganddi ddim gofal plant, meddai, a hithau’n fam sengl.
Dywedodd fod achos troseddol ar y gweill hefyd a allai amharu ar yr achos hwn, a bod angen 21 diwrnod arni i baratoi ei hachos.
Wrth amlinellu ei phryderon, dywedodd fod y Cyngor yn ceisio cau ei busnes “yn anghyfreithlon”, ac nad oes sail i’r honiadau yn ei herbyn.
Mae hi’n dweud ei bod hi wedi bod yn “rhoi rhyddid” i’w chwsmeriaid benderfynu drostyn nhw eu hunain ynghylch y feirws, a bod cau’r busnes yn cael effaith ar y gymuned leol.
Yr erlyniad
Wrth iddyn nhw wrthwynebu’r cais i ohirio’r achos, dywedodd erlynwyr fod yno “fygythiad brys i iechyd y cyhoedd”.
Dywedon nhw nad oedd yr achos sy’n cael ei ddwyn gan Lywodraeth Cymru’n cael effaith ar yr achos hwn mewn perthynas â’r Cyngor Sir, a bod y sinema’n parhau i “anwybyddu” gorchmynion.
“Y realiti yw, medden ni, fod y safle’n cael ei redeg fel pe na bai Covid yn bodoli,” meddai’r erlynydd.
“Mae busnesau’n cael cyfarwyddiadau i leihau’r perygl o haint ac mae’r ffordd y caiff y safle hwn ei redeg yn golygu y gall fod wedi’i heintio.”
Dywedodd fod swyddogion y Cyngor wedi gweld bod diffyg arwyddion, diffyg hylif golchi dwylo a bod hynny’n golygu bod “perygl” ar y safle.
Penderfynodd yr ynad nad oedd rheswm i ohirio’r achos.
Dadleuon y perchennog a’r dyfarniad
Dywedodd Anna Redfern wrth aros am ddyfarniad fod yr hyn roedd y Cyngor wedi’i wneud yn “anghyfreithlon” a bod eu “rhagrith yn anghredadwy”.
Ond penderfynodd yr ynad fod gan y Cyngor achos i ofidio yn ôl y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus.
“Mae’n glir o’r dystiolaeth fod yr awdurdod lleol yn ceisio gwneud mwy na’u gwaith – i geisio lleihau’r perygl o ledaenu afiechyd,” meddai.
Dywedodd y Cyngor y bydden nhw’n ystyried dwyn achos am ddirmyg llys pe bai’r sinema yn parhau i weithredu yn groes i’r gorchmynion.
Gallai hynny, meddai llefarydd, arwain at gyfnod o garchar i’r perchennog Anna Redfern.
Ymateb y Cyngor
Mae’r Cyngor wedi croesawu’r dyfarniad, gan ddweud eu bod nhw’n “gobeithio y bydd yn annog perchennog Cinema & Co i gwblhau’r gwaith angenrheidiol i warchod staff a chwsmeriaid”.
Maen nhw’n dweud nad oedden nhw eisiau cau’r safle, a’u bod nhw wedi rhoi miliynau o bunnoedd fel bod modd i fusnesau “weithredu’n ddiogel yn ystod y pandemig”.
Maen nhw’n dweud ymhellach eu bod nhw’n barod i barhau i gynnig cefnogaeth i Cinema & Co fel bod modd iddyn nhw weithredu’n ddiogel hefyd, gan obeithio y byddan nhw’n cydymffurfio o hyn ymlaen.