Mae cyfreithwyr tri o ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia wedi gofyn i Uwch Lys Sbaen ddweud yn swyddogol fod y drwydded i’w hestraddodi wedi cael ei hatal.

Ychydig dyddiau yn ôl, fe wnaeth Llys Cyffredinol Ewrop wneud dyfarniad dros dro yn dweud nad oes modd arestio na gyrru cyn-arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, na’r cyn-Aelodau Seneddol, Toni Comín a Clara Ponsatí, yn ôl i Sbaen am y tro.

Er hynny, wnaeth y llys ddim adfer imiwnedd seneddol y tri, sydd yn Aelodau o Senedd Ewrop dros blaid Junts per Catalunya.

“Dydyn nhw ddim mewn perygl o gael trosglwyddo’n ôl i’r awdurdodau yn Sbaen”, meddai’r dyfarniad.

Apelio

Ddoe (dydd Llun, Tachwedd 29), fe wnaeth cyfreithwyr y tri ysgrifennu at y barnwr Pablo Llarena yn gofyn a yw’r lluoedd diogelwch a’r heddlu rhyngwladol wedi cael gwybod am benderfyniad y llys Ewropeaidd.

Mae’r tri gwleidydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Llys Cyffredinol Ewrop i beidio rhoi imiwnedd seneddol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd iddyn nhw.

Er bod y llys yn dadlau ei bod hi’n annhebygol y byddan nhw’n cael eu gyrru’n ôl i Sbaen, ac felly nad ydyn nhw’n wynebu “perygl difrifol ac anadferadwy”, mae’r tri yn dweud y byddai cael eu harestio, petai hynny’n digwydd, yn amharu ar eu dyletswyddau fel gwleidyddion.

Mae Carles Puigdemont, arlywydd Catalwnia yn ystod y refferendwm ar annibyniaeth ym mis Hydref 2017, wedi symud i Wlad Belg er mwyn osgoi cael ei erlyn.

Comín a Ponsatí oedd y gweinidogion iechyd ac addysg yng nghabinet Puigdemont ar y pryd.

Yr iaith ar blatfformau ffrydio

Yn y cyfamser, er mwyn ennill cefnogaeth plaid Esquerra Republicana, plaid genedlaetholgar Catalwnia, mae Prif Weinidog Sbaen wedi cytuno i gyflwyno cwotâu ar gyfer rhaglenni sydd mewn ieithoedd lleiafrifol.

Dan y cytundeb, bydd rhaid i 6% o gynnwys platfformau ffrydio’r wlad fod mewn Catalaneg, Galisieg neu Fasgeg.

Fydd y cwotâu hyn ddim ond yn berthnasol i blatfformau sydd â’u pencadlysoedd yn Sbaen, ac felly ddim yn effeithio ar gwmnïau megis Netflix ac Amazon Prime.

Mae’r bil yn cynnwys darparu €10.5m ychwanegol i hyrwyddo cynnwys gweledol a chlywedol mewn ieithoedd lleiafrifol sy’n cael eu siarad yn Sbaen.

Dydi’r bil heb fynd o flaen y Gyngres yn Sbaen eto.