Mae nifer yng Nghymru wedi llongyfarch ynys Barbados ar ddod yn weriniaeth.

Mae’r cam yn golygu nad yw Brenhines Loegr bellach yn bennaeth ar yr ynys yn y Caribî.

Enillodd Barbados ei hannibyniaeth 55 mlynedd yn ôl, ond dyma’r tro cyntaf i’r ynys gael arlywydd.

Daeth cadarnhad o statws newydd yr ynys gan Carol Roberts-Reifer, prif swyddog gweithredol y Sefydliad Diwylliannol Cenedlaethol, wrth iddi ddatgan fod yr ynys bellach yn weriniaeth yn ôl ei chyfansoddiad.

Wrth i’r datganiad ddod, tyngodd y Fonesig Sandra Mason lw wrth ddod yn arlywydd gerbron prif ustus yr ynys a gwesteion.

Wrth i’r ynys gefnu ar Frenhines Loegr, roedd ei mab, Tywysog Charles, yno ar gyfer y seremoni lle bu’n cyfeirio at “erchylltra ofnadwy caethwasiaeth” sydd, meddai, “yn staen ar ein hanes am byth”.

Dywedodd fod dyddiau caethwasiaeth yn “ddyddiau duaf ein gorffennol”, ond edrychodd tuag at y dyfodol gan ddweud bod “creu’r weriniaeth hon yn cynnig dechreuadau newydd”.

Ond mae rhai o ynysoedd y Caribî yn dal i fod o dan reolaeth Brenhines Loegr.

Pennod newydd

Mae gan ynys Barbados berthynas â’r frenhiniaeth sy’n ymestyn dros sawl canrif.

Ond mae’r arlywydd newydd wedi disodli Brenhines Loegr yn bennaeth ar y wladwriaeth, a hynny yn dilyn seremoni a gafodd ei darlledu’n fyw o’r brifddinas Bridgetown.

Mae’r Frenhines wedi dymuno’n dda i’r ynys ar ddechrau’r cyfnod newydd yn ei hanes, gan ganmol yr ynys sydd â “lle arbennig” yn ei chalon, meddai, gan dynnu sylw at ei “diwylliant bywiog, gorchestion chwaraeon a’i harddwch naturiol”.

Yn ôl Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, fe fyddan nhw’n parhau’n “ffrindiau a chynghreiriaid cadarn” fel rhan o “bartneriaeth a gafodd ei hadeiladu i bara”.

Y seremoni

Yn ystod y seremoni, cafodd baner Brenhines Loegr ei gostwng am y tro olaf cyn i faner yr arlywydd gael ei chodi yn ei lle i nodi’r trosglwyddiad swyddogol.

“Mae creu’r weriniaeth hon yn cynnig dechreuadau newydd, ond mae hefyd yn nodi pwynt ar gontinwwm, carreg filltir ar y ffordd hir rydych chi wedi teithio ond hefyd wedi ei hadeiladu,” meddai Tywysog Charles.

“O ddyddiau duaf ein gorffennol, ac erchylltra ofnadwy caethwasiaeth, sydd yn staen ar ein hanes am byth, fe wnaeth pobol yr ynys hon dorri eu cwys eu hunain â chryn gryfder.”

Protestiadau

Fe fu protestiadau cyn y seremoni, wrth i ymgyrchwyr fynnu ymddiheuriad ac iawndal gan frenhiniaeth Loegr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gaethwasiaeth.

Fe fu caethwasiaeth ar y gweill yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, ac roedd y frenhiniaeth yn gwrthod unrhyw ymdrechion i ddileu’r arfer.

Ond fe ddaeth i ben unwaith ac am byth wrth basio deddfwriaeth yn 1807.

Anrhydedd i gantores fyd-enwog

Rihanna
Rihanna

Ar ddiwrnod cynta’r weriniaeth, derbyniodd y gantores fyd-enwog Rihanna anrhydedd gan yr ynys yn gydnabyddiaeth am ei gyrfa.

Cafodd ei magu ar yr ynys ac roedd hi yn y seremoni i weld Barbados yn dod yn weriniaeth.

Daeth enwebiad ar gyfer yr anrhydedd gan Lywodraeth Barbados, ac mae hi’n derbyn Gwobr Arwyr Cenedlaethol.

Ymhlith ei chaneuon amlycaf mae ‘Diamonds’, sy’n cynnwys y llinell “shine bright like a diamond”, a chafodd y geiriau hynny eu hadleisio yn ystod y seremoni gan yr arlywydd newydd wrth i’r gantores gael ei llongyfarch ar dderbyn anrhydedd fwya’r ynys.

Roedd dathliad o ddiwylliant yr ynys yn ystod y seremoni, gyda cherddoriaeth, dawns a llefaru yn rhan o’r dathliadau, ac roedd nifer o berfformwyr yn feirniadol o hanes yr ynys fel trefedigaeth.

Llongyfarchiadau

Ymhlith y rhai o Gymru sydd wedi llongyfarch yr ynys mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

Fe alwodd am “hir oes i weriniaeth Barbados”, gan ddymuno “diwrnod gweriniaeth hapus i Bajans ble bynnag y boch”.

Wrth dynnu sylw at yr achlysur, dywedodd y mudiad annibyniaeth YesCymru, “Heb gasineb na drwgdeimlad, daw #Barbados yn weriniaeth a gydag hynny, teimlad bod apêl Prydain yn pylu”.

Barbados yn dod yn weriniaeth

Ond Tywysog Charles yn tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng yr ynys a’r Deyrnas Unedig a fydd yn para