Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i fyfyrwraig 22 oed ddiflannu bythefnos yn ôl.

Cafodd Catrin Maguire, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ei gweld am y tro diwethaf ar gamerâu cylch cyfyng ar Ffordd Ynys Lawd, Caergybi, ger y warchodfa natur ar 15 Tachwedd.

Roedd hi’n cerdded i gyfeiriad goleudy Ynys Lawd am 1:18 y prynhawn hwnnw.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal honno ar y pryd i gysylltu â nhw, ac yn gofyn i unrhyw un sydd gan gamerâu CCTV ar adeiladu yn ardal i gysylltu â nhw.

Mae nifer o asiantaethau wedi bod yn chwilio amdani, gan gynnwys gwylwyr y glannau, y bad achub, a chŵn sy’n arbenigo mewn canfod pobol.

“Pryderus iawn”

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n cadw meddwl agored am ei diflaniad, ond ei bod hi’n “annhebygol” bod y diflaniad yn un “amheus”.

“Rydyn ni’n parhau i apelio i’r rhai oedd yn yr ardal ar yr amser hwnnw i feddwl os wnaethon nhw weld Catrin, a gwirio eu CCTVs a’u dashcams,” meddai’r Prif Arolygydd Llinos Davies.

“Mae hon yn ardal boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr a phobol leol, mae llawer o bobol yn mynd i gerdded yno bob diwrnod.

“Rydyn ni’n gobeithio bod rhywun wedi gweld Catrin y diwrnod hwnnw, ac a allai fod â gwybodaeth hanfodol i helpu ein gwaith chwilio.”

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Llinos Davies ei fod yr achos yn “bryderus iawn i ni, yn bryderus iawn i’r teulu ac mae’n anarferol iawn i Catrin – dydy hi ddim wedi diflannu o’r blaen ac mae’n groes i’w chymeriad”.

“Rydyn ni’n poeni’n fawr am ei diogelwch ac yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth.”