Nid oedd y ci wnaeth ladd bachgen 10 oed yng Nghaerffili yn frîd anghyfreithlon, meddai Heddlu Gwent.
Mae arbenigwyr deddfwriaeth cŵn wedi cwblhau’r broses o adnabod a chanfod brîd y ci, ac wedi dod i’r casgliad mai ci tarw (bulldog) Americanaidd ydoedd.
“Nid yw’r brîd hwn ar y rhestr o gŵn sydd wedi eu gwahardd, ac felly nid yw yn erbyn y gyfraith i fod yn berchen ar un yn y wlad hon,” meddai Heddlu Gwent.
Cafodd y ci ei ladd gan swyddogion arbenigol yn dilyn yr ymosodiad, ac mae dynes 28 oed o ardal Caerffili wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi a hwnnw allan o reolaeth ac yn beryglus, ac wedi achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.
Cafodd dau ddyn, 34 ac 19 oed, o Aberpennar ac ardal Caerffili, eu rhyddhau hefyd, ar ôl mynd at yr heddlu o’u gwirfodd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos gysylltu â Heddlu Gwent.