Daeth cannoedd o bobl ynghyd yn gwisgo coch ac yn cario balwnau coch ar gyfer angladd bachgen a laddwyd gan gi. Talodd ei fam deyrnged emosiynol iddo.

Bu farw Jack Lis, 10, ar ôl ymosodiad gan gi wrth chwarae yn nhŷ ffrind ar ôl ysgol yn gynharach y mis hwn.

Cafodd gwasanaeth ar gyfer y bachgen ysgol, o Pentwyn, Penyrheol, ger Caerffili ei gynnal yn Eglwys Sant Martin yng Nghaerffili heddiw (dydd Iau 25 Tachwedd) ar ôl gorymdaith o geir enwog, gan gynnwys DeLorean DMC-12 arian a Mustang coch, o amgylch y castell a’r dref.

Roedd trigolion y dref ar y strydoedd sy’n arwain at yr eglwys tra bod geiriau’r Parchedig Mark Greenaway-Robbins, a arweiniodd y gwasanaeth, yn cael eu chwarae ar uchelseinyddion y tu allan.

Siaradodd tad-cu Jack, ‘Bampy Nigel’, yn ystod y gwasanaeth a dywedodd: “Rwy’n gobeithio ei fod yn edrych i lawr ar bopeth a wnawn gyda gwên. Rydyn ni eisiau ei wneud mor falch ohonon ni ag yr ydyn ni ohono fe.”

Darllenwyd teyrnged gan ffrind gore Jack: “Jack, rwyt ti wedi mynd yn rhy gynnar. Ches i ddim ffarwelio â thi, ond dw i’n edrych ymlaen at y diwrnod y byddwn yn cyfarfod eto.

“Diolch am fod yn ffrind anhygoel, byddi di bob amser yn fy nghalon.”

Mewn darlleniad emosiynol, dywedodd mam Jack, Emma Whitfield: “Treuliais y 10 mlynedd diwethaf yn dy wylio’n tyfu a chawsom ddechrau dy weld yn tyfu’n ddyn anhygoel.

“Mae fy nghalon yn torri na fyddwn yn cael dy weld yn tyfu i mewn i’r dyn anhygoel hwnnw.

Yn hytrach na blodau gofynnodd y teulu i roddion gael eu gwneud i’r elusen 2 Wish Upon A Star, sy’n cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn person ifanc.

Cynnal angladd Jack Lis, bachgen 10 oed fu farw yn dilyn ymosodiad gan gi

Fe fu farw o ganlyniad i’w anafiadau wedi’r ymosodiad ar Dachwedd 8