Bydd gŵyl i ddathlu bywyd a gwaith Jan Morris yn cael ei chynnal ym Machynlleth dros y penwythnos hwn (26 i 28 Tachwedd).

Eleni yw’r tro cyntaf i Ŵyl Deithio a Llenyddiaeth Amdani, Fachynlleth! gael ei chynnal, a bydd hi’n deyrnged i’r awdur a’r hanesydd Jan Morris, a fu farw flwyddyn ôl.

Yn ôl yr awdur Mike Parker, a fydd yn cyflwyno darlith fel rhan o’r ŵyl, roedd Jan Morris yn “bwysig dros ben” yn y cyd-destun Cymreig, nid yn unig oherwydd ei lle yn hanes llenyddiaeth Cymru, ond “fel cynrychiolydd Cymru i’r byd” hefyd.

Testun darlith Mike Parker fydd ‘Machynlleth and the meaning of Somewhere’, a fydd yn edrych ar sut mae’r dre wedi ymddangos mewn llyfrau teithio dros y blynyddoedd.

Bydd yr ŵyl ddwyieithog yn dechrau nos fory (26 Tachwedd), gyda mab Jan Morris, Twm Morys, yn agor a chau’r ŵyl yng nghanolfan Y Tabernacl.

Llythyr caru i’r llyfr

Mae hi’n “bwysig iawn” cynnal gŵyl i ddathlu bywyd a gwaith Jan Morris, meddai Mike Parker, a fydd yn siarad yng Ngwesty’r Wynnstay brynhawn Sadwrn (27 Tachwedd) am 4yh.

“Ers ei marwolaeth flwyddyn yn ôl, mae hi wedi dod yn fwy amlwg pa mor bwysig oedd hi’n hanes llenyddiaeth ail hanner yr ugeinfed ganrif a’r 21ain,” meddai Mike Parker wrth golwg360.

“Yn fy marn i, bydd ei legacy hi yn tyfu a thyfu dros y blynyddoedd i ddod.

“Themâu’r ŵyl yw teithio, a llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar deithio, felly mae lot ohono fo fel teyrnged i Jan Morris.”

Fe ysgrifennodd Jan Morris lyfr am Fachynlleth, Triawd Machynlleth, a bydd darlith Mike Parker yn ffordd o ddathlu’r gyfrol ddwyieithog, lled-ffuglennol honno, yn ogystal â thrafod Machynlleth yn ehangach.

Mike Parker

Dywedodd Jan Morris wrth Mike Parker unwaith mai Triawd Machynlleth oedd yr unig lyfr iddi ei ysgrifennu, a pheidio derbyn unrhyw lythyr yn ei gylch – yn canmol na’n cwyno.

“Dw i’n galw be dw i’n ei wneud dydd Sadwrn yn ‘A belated love letter i’r llyfr A Machynlleth Triad’.

“Mae’n creu llun o’r dref yn 1402, sef yr amser yr oedd Owain Glyndŵr yn cael ei goroni yn y dref felly’r gorffennol, y presennol sef y 90au pan wnaeth hi ei ’sgwennu fo, a’r dyfodol hefyd.

“Dyna’r triawd, y gorffennol, presennol, a’r dyfodol.

“Mae’r darn olaf, sef y dyfodol, Jan yn dychmygu Machynlleth fel prifddinas Cymru annibynnol – rhywbryd yn y 21ain ganrif.

“Dw i’n dathlu’r llyfr, ond yn ei roi yng nghyd-destun ehangach ei gwaith hi, a’r dref, a phwy arall sydd wedi ’sgwennu am Fachynlleth dros y blynyddoedd – pobol fel George Burrows a Beatrix Potter.”

“Rhannu straeon hyfryd”

Mae’r artistiaid Iwan Bala, Dan Llywelyn Hall, ac Angharad Price ymysg y siaradwyr eraill o Gymru, a bydd yr holl ddigwyddiadau, oni bai am y cyflwyniad cyntaf nos fory gyda Twm Morys a Simon Jenkins, yn cael eu cynnal yng Ngwesty’r Wynnstay.

Mae Charles Dark, perchennog y Wynnstay, wedi bod yn rhan allweddol o’r trefniadau, a dywedodd ei bod hi’n “hynod gyffrous” cael dod â “rhai o’r arbenigwyr llenyddiaeth a theithio mwyaf gwybodus” ynghyd.

“Mae hwn yn waith tîm rhwng y Tabernacl a’r Wynnstay, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at benwythnos llawn chwerthin a gwybodaeth, a chael rhannu straeon hyfryd ar thema teithio.

“Allai ddim diolch digon i’r siaradwyr am gytuno i gymryd rhan, gan mai nhw yw’r gorau ymysg y goreuon, a gallwn ni ddim aros i’w croesawu nhw i dref brydferth Machynlleth.”

Mae Mike Parker yn nodi y bydd tocynnau ar gael ar y drws, ond mae’n bosib cael tocynnau ar wefan MOMA Cymru hefyd, a bydd rhaid cael pasys Covid i fynychu’r digwyddiadiadau.

Gŵyl newydd ym Machynlleth i anrhydeddu’r awdur Jan Morris

Bydd gŵyl deithio a llenyddiaeth ddwyieithog ‘Amdani, Fachynlleth!’ yn cael ei chynnal ar benwythnos 26 i 28 Tachwedd