Byddai cydnabod y grŵp Datblygu fel ‘ysbrydoliaeth’ wedi plesio Dave R Edwards, yn ôl Emyr Glyn Williams o Label Recordiau Ankst, fu’n cydweithio’n agos â’r band am ddegawdau.

Daw hyn ar ôl i’r band ennill ‘Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig’ yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig echdoe.

Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron yn 2011 gyda’r nod o ddathlu’r gerddoriaeth orau o Gymru’n flynyddol.

Ers 2018, mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig hefyd yn dyfarnu gwobr ychwanegol dan yr enw ‘Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig’ – Meic Stevens oedd enillydd cyntaf y wobr honno.

Roedd albwm diwethaf Datblygu, ‘Cwm Gwagle’, ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Albwm y Flwyddyn’ eleni.

Fodd bynnag Kelly Lee Owens ddaeth i’r brig gyda’i halbwm ‘Inner Song’.

“Diolch”

Ym mis Mehefin eleni, bu farw sylfaenydd a chanwr y grŵp, David R. Edwards yn 56 oed gan dderbyn llu o deyrngedau.

Roedd Patricia Morgan, hanner arall Datblygu, ac Emyr Glyn Williams yn bresennol yn y gwobrau a thalodd Emyr deyrnged i’r band mewn araith.

Patricia Morgan a chriw Ankst ar eu ffordd i’r gwobrau

“Dw i’m yn meddwl fy mod i’n gor-ddweud pethau pan dwi’n datgan heno fod Cymru erioed wedi gweld band fel Datblygu o’r blaen ac mae’n annhebygol iawn y byddwn yn dod ar draws eu tebyg eto,” meddai.

“Mae’r cyflwyniad heno yn gyfle i ddiolch iddynt ac i ddatgan yn gyhoeddus fod ein dyled iddynt yn enfawr.

“Dyma fand a ffurfiodd yn Ysgol Aberteifi nol yn 1982 gyda phwrpas clir a nod pendant o greu cerddoriaeth fel adwaith i’r gerddoriaeth ‘bland’, di-enaid sydd yn golchi ymenyddiau’r rheini sy’n dewis dilyn y dall’ a dros y pedwar deg mlynedd a ddilynodd dyna’r union beth a gyflawnwyd ganddynt mewn cyfres o recordiau a pherfformiadau unigryw llwyddodd y band yma i neud rhywbeth i’r ‘psyche’ Cymraeg – a diolch byth am hynna.

“Gwnaeth Cymru newid. Gwnaeth Cymru ddatblygu. Gwnaeth gwrando ar gerddoriaeth Datblygu newid ein meddyliau am Gymru a’r iaith Gymraeg ac ail ddiffinio yn ein meddyliau ystod beth oedd yn bosib i greu oddi fewn i’r diwylliant yma yng Nghymru.

“Tydi’r iaith Gymraeg ddim yn amherthnasol, tydi’r iaith Gymraeg ddim yn boring, dydi pethau yn y Gymraeg ddim yn rhyw gopi gwael o gelf neu gerddoriaeth Saesneg.

“Mae bodolaeth Datblygu wedi sicrhau a mynnu lle priodol i’r iaith Gymraeg yn y diwylliant modern rydym oll yn byw ynddi heddiw.

“Mae Datblygu yn dystiolaeth glir fod ‘na ddim ffiniau i be fedrwn fynegi, dychmygu na chreu gyda’n hiaith.”

“Arwyddocaol”

Dywedodd Emyr wrth golwg360: “Hwn ydi’r tro cyntaf mae yna grŵp neu fand wedi cael yr anrhydedd, dw i’n meddwl mai unigolion sy’n ei dderbyn o fel arfer… Meic Stevens oedd y cyntaf ia?”

“Dw i’n meddwl bod hynna yn arwyddocaol achos yn amlwg mae o’n gyfnod anodd efo beth sydd wedi digwydd.

“Ond mae taith Datblygu fel grŵp wedi dod â ni i’r lle ’ma rŵan lle bron ’da ni’m yn sôn am gerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth sydd ddim yn Gymraeg bellach… ‘da ni’n medru jyst siarad am fiwsig o Gymru.

“Mae yna rywbeth difyr iawn am hynna, y ffaith bod grŵp cwbl Gymraeg rhywsut wedi creu’r dirwedd newydd yna.

“Mae pawb wedi cynhesu atyn nhw gymaint nes ei bod nhw wedi pontio’r peth rhywsut.”

“Hawdd iawn siarad am Datblygu”

Er ei fod yn dweud ei fod wedi mwynhau’r noson, mae Emyr yn cyfaddef fod ganddo ei amheuon cyn mynd.

“Ro’n i ‘chydig bach yn anxious cyn dod i lawr yna achos ro’n i wedi gweld llun o’r venue ac roedd o’n fyrddau crwn ac yn edrych yn barchus,” eglura.

“Nes i feddwl: ‘Oh god, here we go’, ti’n gwybod be’ dw i’n feddwl?

“Wedyn pryd aethon ni actually mewn i’r ystafell roedd o’n llawn, ac roedd Huw (Stephens) yna ar y podiwm yn relaxed.

“Roedd pawb jyst yn rhyw milling about, roedd o fwy fel gig, a ddaru’r holl beth ddigwydd heb unrhyw reolau na threfniant… doedd yna neb yn dweud wrtha ti be’ i wneud na dim byd fel yna.

“Ddaru hynna wneud i’r holl beth deimlo’n gydradd iawn, doedd y bobl oedd wedi’u henwebu ddim wedi cael eu gwahanu o gwbl, doedd y bobl oedd yn rhedeg y sioe ddim wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y gynulleidfa.

“Nes i rili mwynhau hynna, ac roedd o’n hawdd iawn siarad am Datblygu yn yr context yna achos roedd pobl yn ymateb fel fysa ti mewn gig.

“Roedd o’n awyrgylch naturiol ac roedd pawb yn berffaith hapus i wrando… positif, yn hytrach na dyletswydd neu rywbeth trist.”

Cydnabyddiaeth

Byddai Dave R Edwards wedi gwerthfawrogi bod Datblygu yn cael cydnabyddiaeth fel ysbrydoliaeth, medd Emyr.

“Mae yna syniad wrach y bydda fo ddim, ddaru Pat ddweud ei hun ar y llwyfan ei bod hi’n gallu dychmygu Dave yn eistedd yn y cefn yn ‘fflicio Vs’ ac wrth gwrs mae hynna yn bosib.

“Ond ar y llaw arall dw i wedi’i weld o’n derbyn cydnabyddiaeth gan griw Y Selar ac mae o wastad wedi gwerthfawrogi.

“Doedd dim byd yn bwysicach ganddo fo na ymateb i lythyrau gan ffans a phobl sy’n rhannu’r ffaith bod Datblygu yn cael effaith arnyn nhw.

“Felly mi fysa Dave wedi bod yn hapus o gael cydnabyddiaeth fel ysbrydoliaeth, fysa gwerthu miliwn ddim rili yn creu’r un teimlad iddo fo, dw i’n siŵr o hynny.

“Beth oedd yn grêt oedd gan mai’r grŵp oedd yn cael y wobr a bod Pat yna, roedd Pat yn mobbed drwy’r nos… roedd hogia’ Pys Melyn (oedd wedi’u henwebu am wobr Albwm y Flwyddyn) drosti hi gyd, llwyth o bobl yn dod i fyny ati hi, roedd o’n brofiad mor bositif.

“Dyna wyt ti isio ei weld, dim rhyw ddigwyddiad sych gyda phobol yn nodio eu pennau a jyst cytuno efo chdi, ti isio pobl yn rhannu teimladau nhw eu hunain.”

‘Dal i brosesu marwolaeth Dave’

“Ddaru ni wahodd cyfres o bobl i ddod i’r noson, ond doedd rhai dal ddim yn teimlo’n gyfforddus, ti’n gwybod, dal ddim wedi prosesu’r peth i hyd yn oed fod mewn digwyddiad cyhoeddus amdano fo,” meddai wedyn.

“Ond er bod y grŵp i gyd ddim yna, dw i yn gwerthfawrogi be’ mae Huw (Stephens) yn ei wneud efo’r wobr, a’r ffaith ei fod o ddim jyst yn rhywbeth Cymraeg.

“Mae o’n llawer iawn mwy eangfrydig, ac yn rhywbeth fysa Dave wedi mwynhau.

“Dw i’m yn siŵr os ydw i’n iawn i ddweud hyn, ond ges i wahoddiad gan yr Eisteddfod yn dweud: ‘Mi fasa ni’n licio gwneud rhywbeth i ddathlu’.

“Ond roedd rhaid i mi ddweud, ‘Wel, roedd Dave yn ffycin casáu’r Eisteddfod’ felly mae yna ddewis a dethol yn digwydd.

“Dw i’m yn rheoli be ‘di ymateb neb i unrhyw beth, ond dyna fysa fo wedi ddweud. It wasn’t a big secret.

“Ond dw i yn ddiolchgar am y gwaith da mae Huw yn wneud, doedd hwn ddim yn rhywbeth ddaru ni ofyn amdano fo na dim byd felly.

“Mae yn wastad rhywun yn gofalu am y syniadau ’ma ac yn trefnu pethau a dydyn nhw ddim wastad yn cael y diolch, felly dw i isio dweud diolch.”

“Nath e ddod â drych i ddiwylliant Cymreig…”

Huw Bebb

Teyrngedau i David R Edwards, ‘Dave Datblygu’, sydd wedi marw’n 56 oed