Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cynnwys newydd yn cael ei lansio ar blatfform Hansh dros y misoedd nesaf.

Dywed y sianel fod y “cyfresi newydd yn rhan o strategaeth S4C i gomisiynu cynnwys hirach i Hansh dros y blynyddoedd nesaf.”

Y tri chomisiwn newydd fydd y gyfres ddogfen tair rhaglen ‘Pa fath o bobl?,’ cyfres materion cyfoes ‘GRID’, a chyfres gomedi sefyllfa ‘LIMBO’.

Cafodd Hansh ei lansio ym mis Mehefin 2017 er mwyn cynnig cynnwys unigryw i bobol ifanc rhwng 16-34 ac, ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi datblygu i ddarparu cynnwys ar sawl platfform, a chreu podlediadau.

Mae Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Ar-lein S4C, wedi dweud bod “gweledigaeth Hansh o roi llwyfan i leisiau newydd yr un mor gryf ag erioed.”

Dywed ei bod hi’n “bwysig hefyd fod Hansh yn estyn allan i gymunedau newydd,” a bydd y cyfresi newydd yn “amserol, gafaelgar ac yn llawn syniadau newydd.”

‘Pa fath o bobl?’

Mae cyflwynydd y gyfres newydd o ‘Pa fath o bobl?,’ Garmon ab Ion, wedi dweud bydd y rhaglenni’n edrych ar ‘bynciau llosg’ sy’n ymwneud â Chymru a’r Gymraeg.

Bydd y gyfres honno’n cael ei lansio heno (dydd Iau, 25 Tachwedd) am 20:00, a bydd modd gwylio’r premiere byw ar sianel Hansh ar Youtube, yn ogystal ag S4C Clic.

Mae’r rhaglenni dogfen wedi datblygu allan o eitem gomedi sydd wedi ymddangos ar Hansh dros y blynyddoedd, ac mae Garmon yn egluro bydd nifer o wahaniaethau rhwng yr eitem a’r gyfres.

“Fyddan nhw ddim yn glipiau pytiog a byr, ond yn dair rhaglen 25 munud o hyd,” meddai wrth golwg360.

“Dy’n ni hefyd yn delio efo materion ychydig yn fwy difrifol, ac mae ’na lai o gymryd y mic allan o bobol.

“Mae o’n fwy i wneud efo delio â’r pwnc a delio efo fy mhrofiad i yn cwrdd â’r bobol yma.

“Wrth gwrs, bydd y tafod dal yn y boch, achos mae gen i’r anallu ’ma o gymryd unrhyw beth wirioneddol o ddifri.

“Ond bydd yr hwyl yn cael ei bwyntio lot mwy tuag at fy hun, yn hytrach na’r pwnc.”

‘Mae’n amlwg fod pobol yn poeni, ond efallai bod dim digon’

Mae’r gyfres newydd yn edrych ar bynciau fel ail gartrefi, annibyniaeth, a’r Gymraeg – gan deithio ledled y wlad i gwrdd â phobol wahanol, o ymladdwyr MMA a modelau glam, i drigolion Pen Llŷn.

“Mae ’na bobol yn amlwg yn poeni ac yn frwdfrydig wrth edrych ar bynciau fel ail dai ac annibyniaeth,” meddai.

“Ond beth dw i wedi ei weld wrth wneud y tair rhaglen ddogfen yw bod dim digon o bobol yn ymwybodol ohonyn nhw.

“Dyna i raddau yw pwrpas y gyfres, sef codi ymwybyddiaeth, er nad ydw i’n cymryd ochr wrth wneud hynny.

“Mae’n amlwg fod pobol yn poeni, ond efallai bod dim digon.”

‘Os dydych chi methu chwerthin ar ben eich hunain, mae ’na broblem fawr’

Er bod y pynciau llosg sy’n cael eu trafod yn bethau difrifol, mae Garmon yn credu ei bod hi’n bwysig inni edrych arnyn nhw drwy lygaid comedi hefyd.

“Mae hynny’n hanfodol,” meddai.

“Rydyn ni, fel Cymry, weithiau, yn cael trafferth gwneud hwyl am ben ein hunain, achos ein bod ni’n gweld y materion hyn yn bethau mor ‘sanctaidd’.

“Gan fod y freuddwyd o annibyniaeth a chael miliwn o siaradwyr yn un lle dydy’r fflam heb gynnau’n ddigonol, dydy pobol ddim yn meddwl ein bod ni wedi bod ar y daith am ddigon hir i wneud hwyl am y pethau yma.

“Ond dw i’n credu ei bod hi’n hanfodol i ni bwyntio bys a gwneud hwyl am ben ein hunain, a gwneud hynny mewn ffordd adeiladol, achos byddai’n troi mwy o bobol at y materion yma pe bai ni yn.

“Yn y pen draw, os dydych chi methu chwerthin ar ben eich hunain, mae ’na broblem fawr.”