Bydd sioe amlieithog ac arallfydol i bobol ifanc yn teithio theatrau Cymru yn ystod Gwanwyn 2022.
Dyma’r ail dro i Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales gydweithio, a hynny ar y cyd â chwmni theatr August012.
Yn ôl Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, mae cynnwys y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr “mewn sefyllfa naturiolaidd” yn gyfle i ddod â chynulleidfaoedd y ddwy theatr ynghyd.
Mae’n gyfle, felly, i ddenu cynulleidfa wahanol sydd ddim yn dueddol o fynd i wylio theatr drwy’r Gymraeg, meddai, gan wneud hynny drwy “adlewyrchu realiti pobol ifanc” mewn cymdeithas ddwyieithog.
Mae’r sioe PETULA wedi cael ei sbarduno gan y Cyfarwyddwr Ffrengig Mathilde Lopez, sy’n rhedeg cwmni theatr August012 yng Nghaerdydd.
Bu’n gweithio gyda’r awdur Daf James ar yr addasiad o Wanted Petula, drama Ffrengig gan Fabrice Melquiot, sy’n cynnwys cyfuniad o Gymraeg, Saesneg, ac ychydig o Ffrangeg, ac wedi’i gosod yng Nghymru.
“Adlewyrchu realiti”
Dewi Wykes fydd yn chwarae rhan Pwdin Evans, y prif gymeriad, a’r gantores Kizzy Crawford fydd yn chwarae rhan Petula, ei gyfnither goll.
“Mae’r ddrama mewn ffordd yn adlewyrchu realiti bywyd pobol ifanc sy’n byw mewn cymdeithas ddwyieithog, be sydd gennym ni ydi sefyllfa naturiolaidd yn ieithyddol lle mae Pwdin Evans yn byw efo’i dad a’i lys-fam,” esboniodd Arwel Gruffydd wrth golwg360.
“Mae’r ddrama i gyd yn digwydd un noson pan mae mam Pwdin a’i lys-dad yn cael eu gwahodd am swper.
“Mae mam a thad Pwdin yn siarad Cymraeg, ond dydi’i lys-dad a’i lys-fam o ddim. Felly mae’r ddeialog yn y ddrama yn symud rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn rhwydd, yn ddibynnol ar ba gymeriadau sy’n siarad gyda’i gilydd.
“Mae hyn yn rhywbeth y gwnaethom ni ei wneud yn y cynhyrchiad Tylwyth, yn ogystal â Llwyth gan Daf James – mae Daf yn hoff iawn o gyflwyno cymeriadau di-Gymraeg mewn drama Gymraeg, er mwyn adlewyrchu ein profiad ieithyddol ni o ddydd i ddydd.”
Ynghanol y llanast yma o swper, mae llys-dad Pwdin, sy’n daflwr javelin proffesiynol, yn taflu Pwdin â chymaint o nerth nes ei fod yn cyrraedd y gofod.
“Mae o ar antur drwy’r gofod yn chwilio am Petula ac yn dod ar draws gwahanol gymeriadau yn y gofod, sydd i ryw raddau yn ei helpu fo fel person ifanc yn ei arddegau yn ceisio dygymod â rhai o heriau sy’n wynebu pobol ifanc heddiw,” eglura Arwel.
“Mae o’n dod ar draws cymeriadau sydd fel petaen nhw’n taflu goleuni newydd ar ei brofiad daearyddol o, ac yn ei helpu fo i wneud synnwyr o’r byd cythryblus o’i gwmpas o.”
Bydd Tom Mumford, Sion Pritchard, Clêr Stephens, a Rachel Summers yn chwarae rhannau’r rhieni a’r llys-rieni.
Denu cynulleidfaoedd di-Gymraeg
Mae hi “wastad yn dipyn o her” cael pobol di-Gymraeg i ddod i brofi’r theatr Gymraeg, meddai Arwel Gruffydd, ond mae’r cynhyrchiad hwn yn gyfle i wneud hynny.
“Mae hi wastad yn dipyn o her i gael pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddod i’r brofi’r theatr Gymraeg.
“Felly drwy gyflwyno’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg, mae o falla’n cyflwyno cyfleoedd i ni allu gwneud hynny mewn ffordd sydd yn chwareus, ffordd sydd, falla, yn adlewyrchu profiad bywyd o ddydd i ddydd yma yng Nghymru lle rydyn ni wastad yn troi o un iaith i’r llall ar amrantiad.
“Mae byd Pwdin yn adlewyrchiad o brofiad bywyd, yn sicr, nifer fawr o bobol ifanc yng Nghymru lle mae profiad eu bywyd nhw’n neidio rhwng y ddwy iaith.”
“Prydferthwch, ffolineb a chymhlethdod”
Mae Mathilde Lopez wedi cydweithio gyda National Theatre Wales droeon, ac yn un o Gyfarwyddwyr Cyswllt y theatr.
“Dw i wrth fy modd yn cael twrio i fyd anhygoel Melquiot gyda chriw mor wych o actorion a gwneuthurwyr theatr, a mynd i’r afael â hud ac arswyd blynyddoedd yr arddegau,” meddai Mathilde Lopez.
“A dyna hyfryd yw cael caniatâd i archwilio’r cyfnodau bregus hyn yn eu holl brydferthwch, ffolineb a chymhlethdod, a gwneud hynny gydag ymddiriedaeth lawn a chefnogaeth National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.”
Ac eithrio Sion Pritchard, dydi’r Theatr Genedlaethol erioed wedi gweithio efo’r un o gast y sioe o’r blaen, ac mae Arwel Gruffydd yn dweud eu bod nhw’n “falch iawn” o gael rhoi cyfle i actorion newydd a chael y cyfle i weithio efo actorion nad ydyn nhw wedi gweithio â nhw o’r blaen.
Bydd PETULA yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd ganol mis Mawrth 2022, ac yn teithio i Aberystwyth, Bangor, Llanelli, Aberdaugleddau, Casnewydd, ac Aberhonddu, ac yn addas i blant dros 12 oed.