Mae Castell Gwrych ger Abergele wedi profi i fod yn lleoliad hunllefus ar gyfer ffilmio cyfres deledu yno yr wythnos yma.

Mae’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhaglen ar ITV o’r enw I’m a Celebrity … Get Me Out Here!

Yn gynharach yn yr wythnos, cafodd un o’r cystadleuwyr ei ruthro i’r ysbyty, bu’n rhaid i swyddogion diogelwch yrru tresmasydd oddi yno, a neithiwr bu’n rhaid newid y trefniadau ffilmio oherwydd Storm Arwen.

Am y tro cyntaf yn hanes y rhaglen, bu’n rhaid ei recordio ymlaen llaw yn y bore yn lle ei darlledu’n fyw gyda’r nos oherwydd ofnau am y tywydd.

Dyma’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych, oherwydd bod cyfyngiadau coronafeirws yn rhwystro’r selebs honedig a’r criw ffilmio rhag teithio i wledydd tramor.