Fydd dim pennod newydd o’r gyfres deledu I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here am yr ail noson yn olynol heno (nos Sul, Tachwedd 28) o ganlyniad i Storm Arwen.

Cafodd y sêr eu symud o gastell Gwrych neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 27) a daeth y ffilmio i ben am y tro wrth i waith cynnal a chadw gael ei gwblhau ar ôl i’r rhaglen gael anawsterau technegol yn sgil y tywydd garw.

Mae lle i gredu bod y sêr wedi dychwelyd i gwarantîn unigol er mwyn sicrhau bod y gyfres yn gallu parhau yn y castell unwaith fydd y tywydd wedi gwella’n ddigonol.

Yn sgil penodau byw y penwythnos hwn, mae ITV yn dangos clipiau o hen sioeau wedi’u lleisio gan y cyflwynwyr Ant & Dec.

Bu’n rhaid ffilmio pennod nos Wener (Tachwedd 26) ymlaen llawn o ganlyniad i’r tywydd, a dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd.

Fe fu’n wythnos gyntaf brysur yn y castell, a’r gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Ddydd Iau (Tachwedd 25), cafodd Richard Madeley ei daro’n wael ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty cyn gadael y gyfres am iddo orfod torri’r swigen Covid-19.

A bu’n rhaid symud tresmaswr o’r castell ddechrau’r wythnos.