Mae arddangosfa newydd, sy’n cael ei ddisgrifio fel “cofnod hiraethus o ardal heb ei debyg,” yn cael ei harddangos yng nghanolfan Storiel ym Mangor.

Bydd ‘Y Bae’ gan yr arlunydd Pete Jones yn ymddangos yno tan ddiwedd y flwyddyn, gyda chasgliad o luniau sydd, yn ôl yr artist, yn “archwiliad o’r ardal y cefais fy magu ynddi.”

Cafodd Pete Jones ei eni a’i fagu yn ardal Hirael, Bangor, a oedd yn arfer bod yn ganolog i’r diwydiannau llechi ac adeiladu llongau o’r 19eg ganrif.

Fe dyfodd y gymuned o gwmpas y diwydiannau hynny, gyda thai, siopau a thafarndai’n gwasanaethu gweithwyr a’u teuluoedd yng ngogledd y ddinas.

Bellach, gyda’r diwydiant llechi wedi hen ddirywio, mae’r porthladd cyfagos wedi cau a llawer o’r gweithwyr wedi gadael.

‘Adlewyrchu fy nheimladau i’

Ar ôl graddio o Ysgol Gelf Caer a Choleg Celf a Dylunio Loughborough, bu Pete Jones yn nyrs anabledd dysgu am 30 mlynedd, cyn dod yn arlunydd llawn amser yn 2016.

Dywed fod elfennau o’r hen Hirael i’w weld yn glir yn ei waith diweddaraf, ac mae’n cofio yn ôl i’w ddyddiau yn blentyn yno.

“Roedd ogla’r môr a mwd yn ystod yr hafau poeth yn gryf, ac yn ein hatgoffa o ba mor agos oeddan ni at y dyfnder,” meddai.

“Ar lanw uchel, mae rhannau helaeth o Hirael yn is na lefel y môr ac yn wynebu bygythiad o lifogydd.

“Mae stôr o gyfeiriadau emosiynol a diwylliannol yn llywio’r gwaith. Mae atgofion o edrych allan i’r môr a’r gorwel yn amlwg yn y gwaith.

“Dwi wedi trio creu awyrgylch sy’n adlewyrchu fy nheimladau i tuag at yr Hirael a fu, ac sydd bellach wedi diflannu.”

‘Pwysig eu cofio’

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd lleol dros Arfon, Siân Gwenllian, ymweld â’r arddangosfa yn ddiweddar.

“Er gwaetha’r ffaith bod Hirael wedi newid dros y blynyddoedd, mae’r ardal yn parhau i fod o bwysigrwydd hanesyddol enfawr,” meddai.

“Ar un adeg roedd yn ganolfan o ddiwydiant morwrol ac roedd yn ganolog i waith y diwydiant llechi lleol.

“Straeon cymunedau fel Hirael sy’n bwysig eu cofio wrth i’r ardal gael ei dynodi’n safle treftadaeth y byd UNESCO.

“Yn weithwyr, a theuluoedd i weithwyr, y cymeriadau ydi asgwrn cefn llefydd fel Hirael, ac mae hynny’n amlwg yng ngwaith hiraethus Pete.

“Roedd darn yn y Liverpool Daily Post yn gofyn: ‘Pwy allai beidio ag ateb galwad y môr o Hirael, ardal sydd a’i thraed yn nŵr y Fenai ac anadl Môr Iwerddon yn chwythu trwy’i strydoedd cul?’

“Mae’n amlwg bod Pete yn rhan o linach anrhydeddus o bobl Hirael sydd wedi ateb yr alwad honno.”

Bydd arddangosfa ‘Y Bae’ yn parhau i fod yn Storiel Bangor nes dydd Gwener, 31 Rhagfyr.