Mae’r actor Matthew Rhys wedi cyfrannu arian at fenter gymunedol i brynu ac ailagor tafarn yng Ngheredigion.

Cafodd Tafarn y Vale ym mhentref Ystrad Aeron ei rhoi ar werth ar ôl bod yn nwylo Rowland a Daphne Evans am flynyddoedd.

Daeth y denantiaeth bresennol i ben ym mis Hydref, a byddai angen i’r gymuned gasglu £325,000 er mwyn ei phrynu.

Mae’n debyg bod criw yn lleol wedi cael eu hysbrydoli gan fentrau cymunedol eraill fel Tyn Llan yn Llandwrog, ac yn dilyn hynny, cafodd Menter Tafarn y Vale ei ffurfio er mwyn codi arian.

Haelioni o Hollywood

Fe gyhoeddodd Matthew Rhys ar ei dudalen Twitter ei fod wedi prynu cyfranddaliadau yn y fenter honno.

Dywedodd yr actor o Gaerdydd: “Newydd brynu cyfranddaliadau mewn tafarn lle fu Dylan Thomas arfer ymweld.”

 

‘Rhywbeth go arbennig’

Mewn ymateb i’r newyddion, fe ddywedodd Menter Tafarn y Vale: “Mae’n rhaid bod gennym ni rywbeth go arbennig yma yng nghalon Ceredigion os yw’r dyn ifanc hwn yn chwarae rhan.”

Yn ôl ym mis Awst, pan gafodd y fenter ei sefydlu, fe wnaeth Iwan Thomas, un o’r rhai a gafodd y syniad o agor tafarn gymunedol, egluro pam eu bod nhw’n gwneud hynny.

“Mae’n lle i yfed a bwyta, i chwerthin a dadle’n iach, i chwarae pŵl a chanu a chynllunio’r ddrama nesa,” meddai.

“Ond mae’n fwy na hynny. Fe soniodd rai bod y Vale yn rhywbeth arall hefyd – mae’n ‘lle i ddysgu byw’.

Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron

“Yn galon go iawn i’r gymuned ac mae ‘na ryw naws diwylliannol naturiol yna – rhywbeth fyddai’n anodd iawn ei greu o’r newydd.”

Mae’r fenter newydd basio £100,000 allan o’r £330,000 sydd wedi ei osod fel nod, ac mae modd prynu cyfran ar eu gwefan.

Mae pob siâr yn werth £1, ond mae’n rhaid buddsoddi rhwng yr isafswm o £200 a’r uchafswm o £30,000.

Dychmygu dyfodol tafarn sy’n “lle i ddysgu byw”

Lowri Fron

Mae cyfle wedi codi i’r gymuned leol brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron