Mae prosiect newydd yn gweithio tuag at y nod o gael gwared ar y stigma o amgylch HIV drwy ddefnyddio’r opera.

Ar Ddiwrnod AIDS y Byd ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 1), fe wnaeth Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru alw am “ddull mwy cadarn” gan Lywodraeth Cymru er mwyn dileu achosion newydd o HIV erbyn 2030.

Mae rhan o’r gweithredu hynny’n cynnwys cael gwared ar y stigma, ac mae prosiect Tair Llythyren Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn anelu tuag at y nod hwnnw drwy weithio â chymunedau dros Gymru ar gyfres o ganeuon.

Fel cam cychwynnol, buodd y cwmni yn cydweithio â disgyblion uwchradd yng Nghaerdydd er mwyn cydweithio ag ymgyrchwyr, gan gynnwys yr awdur Mercy Shibemba a’r actor Nathaniel J Hall (It’s a Sin), i gyfansoddi cân gynta’r prosiect.

Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o brofiadau pobol sy’n byw gyda’r feirws heddiw, gan ychwanegu at y casgliad o weithiau cerddorol sydd wedi’u creu ledled byd mewn ymateb i HIV dros y degawdau.

Tair Llythyren

Mae’r cwmni yn cydweithio â phartneriaid amrywiol ar y prosiect, gan gynnwys Fast-Track 2030, menter sy’n anelu at roi stop ar drosglwyddiad HIV a’i stigma erbyn 2030, meddai Michael Betteridge, cyfansoddwr y prosiect.

Mae Caerdydd yn rhan o fenter Fast-Track Cities, ynghyd â nifer o ddinasoedd eraill dros y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

“Roedd hwn yn brosiect peilot i weld sut y bydden ni’n gallu defnyddio opera, cerddoriaeth, straeon pobol sy’n byw gyda HIV er mwyn gweithio tuag at yr amcanion hynny o gael gwared ar y stigma a chodi ymwybyddiaeth ynghylch byw gyda’r feirws,” meddai Michael Betteridge wrth golwg360.

“Mae Michael Graham, cynhyrchydd y prosiect, wedi bod yn gwneud lot o waith cyn gweithio efo WNO yn archwilio HIV mewn cerddoriaeth, a hanes hynny.

“Mae yna hanes hir o gerddoriaeth, celf, caneuon, ac opera’n cael eu creu yn sgil ysbrydoliaeth gan straeon y rhai sy’n byw â HIV, gan gynnwys yr Aids Quilt Songbook o’r 1990au a gafodd ei ysgrifennu i godi ymwybyddiaeth o HIV ar adeg pan oedd byw gyda HIV, pan nad oedd meddyginiaeth ar gael, yn gosb eithaf i’r rhan fwyaf o bobol, yn anffodus.

“Ond dyna’r ysbrydoliaeth. Roedden ni eisiau creu gwaith gyda chymunedau yng Nghymru sy’n cymryd rhai o’r straeon ynghylch byw gyda HIV heddiw a dangos sut mae hynny wedi newid, a pharhau gyda’r etifeddiaeth o greu cerddoriaeth, opera, a chaneuon yn seiliedig ar brofiadau pobol.”

“Camwybodaeth”

Mae hi’n bwysig i opera, a cherddoriaeth a’r celfyddydau yn ehangach, ddefnyddio eu platfform i drafod HIV am sawl rheswm, yn ôl Michael Betteridge.

“I ddechrau, dw i’n meddwl bod yna dal lot o gamwybodaeth ynghylch byd gyda HIV. Dw i’n meddwl bod gan lot o bobol, yn enwedig y genhedlaeth hŷn, ddelweddau a syniadau fel yr hysbyseb anfad gyda’r garreg fedd yn yr 80au, ac mae yna lot o gamdybiaeth ynghylch yr hyn mae byw gyda’r feirws yn ei olygu,” meddai.

“Mae hi’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod pobol yn ymwybodol bod pethau wedi newid lot ers yr 80au a’r 90au, a hyd yn oed ers y 00au. Mae pethau wedi newid yn sylweddol yn y ddeng mlynedd, ballu, ddiwethaf i’r rhai sy’n byw â HIV.

“Yn benodol, dw i’n credu bod opera, a’r holl gydrannau sy’n creu opera fel y gerddoriaeth, adrodd stori, theatr, yn gerbyd mor arbennig i rannu straeon.

“Gall emosiynau dwys opera, a chaneuon ac unrhyw gerddoriaeth mewn gwirionedd, wirioneddol helpu pobol i ddeall y profiadau bywyd hyn, ac yn bwysicach na dim, [eu galluogi] i empatheiddio gyda phrofiadau bywyd sydd, efallai, yn ddiarth i’r gynulleidfa.”

‘Stop ar y stigma’

Y gân ‘We Learn, We Know, We Understand’ – a gafodd ei chyfansoddi ar ôl cydweithio â 160 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd a’r gantores opera Siân Cameron – yw’r gyntaf o “nifer fawr o ganeuon” mae’r cwmni am eu cyfansoddi.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn bod gweithio gyda phobol ifanc i’w haddysgu nhw am y cyflwr yn bwysig iawn, oherwydd mae hynny’n lledaenu allan i’r gymuned ehangach o ran pobol ifanc eraill a theuluoedd yn dod i wybod,” meddai Michael Betteridge.

“Y syniad yw y bydd WNO yn gweithio gyda lot o wahanol gymunedau dros y deng mlynedd, ballu, nesaf – gydag oedolion, pobol sy’n byw gyda’r feirws, pobol ifanc eraill.

“Y syniad yw y bydd ystod eang o bobol yn ymgysylltu â’r rhaglenni hyn mewn gwahanol ffyrdd.”

Daeth yr ymgyrchydd Mercy Shibemba, sy’n dod o Gaerdydd ac a gafodd ei geni â HIV, a’r actor a’r dramodydd Nathaniel J Hall, sydd hefyd yn byw â HIV ac a ymddangosodd yn y gyfres deledu It’s a Sin ddechrau’r flwyddyn, i gydweithio â’r disgyblion.

“Dw i’n gyfansoddwr, dw i’n gwneud lot o waith gyda’r gymuned LHDT, dydw i ddim byw gyda HIV – i ddechrau, mae hi’n bwysig ein bod ni’n sicrhau ein bod ni’n clywed straeon a phrofiadau gan y bobol sydd â phrofiadau o fyw gyda HIV yn yr unfed ganrif ar hugain wrth weithio gyda phobol ifanc i greu ymateb i’r hyn mae’r profiadau hynny’n eu golygu,” meddai Michael Betteridge.

“Mae Nathaniel a Mercy mor agored am fyw gyda HIV a’r hyn mae’n ei olygu iddyn nhw, ond maen nhw hefyd mor angerddol am rannu eu straeon gydag eraill a gweithio tuag at yr amcanion hynny o roi stop ar y stigma o amgylch byw gyda’r firws.”

Galw am “ddull mwy cadarn” gan Lywodraeth Cymru er mwyn dileu achosion newydd o HIV erbyn 2030

“Rhaid i’r gwaith barhau er mwyn rhoi diwedd ar y stigma a chael gwared ar yr afiechyd hwn unwaith ac am byth”