Y band Bwca, sy’n daer dros faterion cymunedol a’r iaith Gymraeg, yw’r diweddaraf i gefnogi’r fenter i ailagor Tafarn y Vale ym mhentref Ystrad Aeron, a hynny drwy ryddhau cân newydd i godi arian at yr achos – ‘Lawr yn y Vale’

Mae ymgyrchwyr yn ceisio prynu ac ailagor y dafarn wedi iddi fynd ar werth ar ôl bod dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans am flynyddoedd.

Daeth y denantiaeth bresennol i ben ym mis Hydref, a byddai angen i’r gymuned gasglu £325,000 er mwyn ei phrynu, gyda Menter Tafarn Dyffryn Aeron yn cael ei ffurfio er mwyn codi’r arian.

Mae’r actorion byd enwog Rhys Ifans a Mathew Rhys eisoes wedi estyn dwylo i’w pocedi a buddsoddi ym Menter Tafarn y Vale.

Sut felly y daeth Bwca ynghlwm â’r ymgyrch?

“Roedd yr unigolion sydd tu ôl i’r ymgyrch wedi cysylltu i ofyn a oedd modd i Bwca wneud rhywbeth bach i helpu’r ymgyrch,” meddai Steff Rees, canwr-gyfansoddwr y band, wrth golwg360.

“A digwydd bod roedden ni’n ymarfer y noson honno.

“Mae gennym ni gân o’r enw ‘Lawr yn y Gen’ am y Llyfrgell Genedlaethol ac mae sôn yn y gân am dafarn y Llew Du, a pan rydan ni’n chwarae yn fyw rydan ni’n newid geiriau’r gân i ba bynnag pub mae’r gig.

“Felly penderfynais i newid geiriau’r gân i ‘Lawr yn y Vale, bydd bywyd yn fêl’.

“Cafodd clip bach o honna ei rhannu ar Facebook a chael ymateb rili da, felly penderfynais fod hi werth recordio’r gân yn iawn.

“Felly ddaru ni greu geiriau newydd iddi ac ia, gobeithio y bydd hi’n cael ambell i play a denu ychydig bach o sylw at yr ymgyrch a gobeithio codi ychydig o arian er mwyn helpu i brynu siars.”

“Casáu canu am ddim byd”

Mae materion cymunedol yn bwysig i Bwca ac yn dylanwadu ar eu caneuon – maen nhw’n fand sy’n “casáu canu am ddim byd”.

“Mae o’n neis gallu cyfrannu at y gymuned ac yn amlwg mae lot o bethau da a drwg yn digwydd yn ein cymunedau ni gyd,” meddai Steff.

“Mae’n sicr yn sbarduno’r awen i fi a dw i’n licio meddwl bod Bwca yn helpu i dynnu sylw at lot o’r pethau sy’n digwydd yn ein cymunedau ni, boed hynny yn dda neu ddrwg.

“Dw i’n casáu canu am ddim byd, dw i methu ysgrifennu cân am ddim byd.

“Mae’n rhaid i mi gael stori tu ôl i’r gân mewn ffordd, oherwydd efallai os bydden i yn ysgrifennu cân am rywbeth abstract neu ganu cân am ryw ferch neu rywbeth, mae’n annhebygol y bydden ni’n cael y sgwrs yma rŵan.

“Felly mae o i gyd yn gwneud sens wedyn, canu caneuon am bethau sydd o bwys i bobol.”

Ansicr os bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar ail dai

Ddechrau mis Hydref roedd Bwca yn canu am sefyllfa dai “dorcalonnus” ar drothwy rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ yn Sir Benfro.

Wnaethon nhw ryddhau sengl o’r enw ‘Pwy sy’n byw’n y Parrog?’ yn cyfeirio at y nifer uchel o dai haf yng ngorllewin Cymru.

Erbyn hyn mae Prif Weinidog Cymru yn sôn am fynd i’r afael gyda’r sefyllfa, fel rhan o’i gytundeb gyda Phlaid Cymru.

Mae Steff Rees yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi “sylweddoli o’r diwedd bod angen gwneud rhywbeth” am yr argyfwng ail dai yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid yw Steff Rees yn 100% sicr y bydd y Llywodraeth yn gweithredu.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cydnabod fod yna ormod o ail gartrefi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, a lofnodwyd yn swyddogol yr wythnos hon (dydd Mercher 1 Rhagfyr), mae ymrwymiad i gymryd “camau uniongyrchol a radical” i fynd i’r afael â nifer yr ail gartrefi yng Nghymru ac i wneud tai’n fwy fforddiadwy.

“Mae’n dda i glywed bod y Llywodraeth yn sylweddoli nawr bod y busnes ail dai a’r ffaith bod pobol ifanc yn y gorllewin a’r gogledd ac yn y blaen yn methu’n lân â fforddio tai yn eu cymunedau, yn broblem,” meddai Steff.

“Ac mae’n dda eu bod nhw’n sylweddoli o’r diwedd bod angen gwneud rhywbeth, ond yn amlwg mae’n rhaid i ni aros i weld beth yn gwmws fydd yn cael ei wneud.

“Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud rhywbeth yn fuan yn lle ein bod ni’n gorfod aros sbel eto, oherwydd wrth mae pobol ifanc yng Ngheredigion yn symud bant i Gaerdydd ac ati, ac mae’r peth yn cael effaith ar ein cymunedau ni a’r Gymraeg ac yn y blaen.

“Felly gobeithio y bydd rhywbeth yn cael ei wneud yn fuan.”

Oes gan Steff ffydd y bydd y Llywodraeth yn gweithredu?

“Dw i’m yn gwybod, mae’n anodd dweud gyda’r gwleidyddion yma,” meddai gan chwerthin.

Yr actor Rhys Ifans

Actor byd-enwog arall yn buddsoddi yn Nhafarn y Vale

“Gwnewch be fedrwch chi, rhowch be fedrwch chi i achub y pyb bendigedig yma,” meddai’r actor Rhys Ifans
Matthew Rhys yn y gyfres The Americans

Actor Hollywood yn buddsoddi mewn menter gymunedol i brynu tafarn yng Ngheredigion

Fe gafodd yr actor Matthew Rhys ei ysbrydoli gan y ffaith bod y bardd Dylan Thomas yn arfer ymweld â Thafarn y Vale yn Nyffryn Aeron