Mae Rhys Ifans wedi estyn dwylo i’w bocedi a buddsoddi ym Menter Tafarn y Vale.

Yr actor byd-enwog yw’r diweddaraf o sêr Hollywood i wneud hynny, gan ddilyn ôl-troed Matthew Rhys, a brynodd gyfrannau dros y penwythnos.

Mae’r fenter yn ceisio prynu ac ailagor Tafarn y Vale ym mhentref Ystrad Aeron, wedi iddi fynd ar werth ar ôl bod dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans am flynyddoedd.

Daeth y denantiaeth bresennol i ben ym mis Hydref, a byddai angen i’r gymuned gasglu £325,000 er mwyn ei phrynu, gyda Menter Tafarn Dyffryn Aeron yn cael ei ffurfio er mwyn codi’r arian.

‘Efallai wela i chi yna!’

Mae Rhys Ifans eisoes wedi cefnogi ymgyrch gymunedol arall, Menter Ty’n Llan, sydd wedi llwyddo i ailagor tafarn ym mhentref Llandwrog eleni.

Fe wnaeth Menter Tafarn Dyffryn Aeron rannu fideo gan yr actor yn cyhoeddi’r newyddion.

“Dw i newydd brynu siârs yn Nhafarn y Vale yn Nyffryn Aeron,” meddai Rhys Ifans.

“Os ydych chi eisiau gwneud yr un peth, cerwch i [www.tafarn.cymru], a gwnewch be fedrwch chi, rhowch be fedrwch chi i achub y pyb bendigedig yma.

“Efallai wela i chi yna!”

Matthew Rhys

Mae’r actor o Gaerdydd, Matthew Rhys, hefyd wedi prynu cyfrannau yn y fenter, ar ôl cael ei ysbrydoli gan y ffaith bod y bardd Dylan Thomas yn arfer ymweld â’r dafarn yng nghefn gwlad Ceredigion.

Mewn ymateb i’r newyddion hwnnw, fe ddywedodd Menter Tafarn y Vale fod “rhaid bod gennym ni rywbeth go arbennig yma yng nghalon Ceredigion os yw’r dyn ifanc hwn yn chwarae rhan”.

Mae’r fenter newydd basio £150,000 allan o’r £330,000 sydd wedi ei osod fel nod, ac mae modd prynu cyfran ar eu gwefan.

Mae pob cyfran yn werth £1, ond mae’n rhaid buddsoddi rhwng yr isafswm o £200 a’r uchafswm o £30,000.