Mae menter newydd, sydd wedi creu’r ystafell ddianc (escape room) Gyntaf yn y Gymraeg, wedi ehangu i greu gêm gartref ar gyfer y Nadolig.
Fe wnaeth criw o ffrindiau o Landdewi Brefi sefydlu menter JENGYD ar gyfer Gŵyl Bro eleni, wrth iddyn nhw geisio meddwl am weithgaredd a oedd yn addas yn ystod y pandemig.
Ar ôl cael llwyddiant bryd hynny, mae’r trefnwyr – Dorian, Iwan, Elan, Enfys, Lynet ac Emyr – yn gweld potensial a phenderfynu mynd ag e ymhellach.
Mae’r ystafell ddianc wedi ei seilio ar Operation Julie, a oedd yn ymchwiliad adnabyddus gan yr heddlu i gyffuriau yn y 1970au, gyda llawer o’r ymchwiliad hwnnw yn digwydd yng nghefn gwlad Ceredigion.
‘Lot o bobol yn chwilfrydig’
Dros y penwythnos, fe aeth y criw â’r garafán i Ffair Nadolig Pontrhydfendigaid, ac fe brofodd yn boblogaidd iawn gyda thrigolion lleol.
“Gath e lot o sylw,” meddai Enfys Hatcher Davies, un o griw JENGYD, wrth siarad â golwg360 am eu llwyddiant diweddar a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
“Roedd lot o bobol yn chwilfrydig, ac yn aros i siarad â ni.
“Doedd dim cliw gan bobol beth oedd ystafell ddianc, ac roedd y cysyniad yn eitha’ dieithr.
“Roedd e’n sicr yn destun siarad ar y diwrnod, ac fe aeth hi’n grêt.”
Eira mawr yn anrheg Nadolig?
Mae’r criw hefyd wedi creu fersiwn ar bapur o’r ystafell ddianc, a fydd yn cael ei gwerthu dros gyfnod y Nadolig.
Yn wahanol i’r garafán, mae’r amlen wedi ei seilio ar ddigwyddiad Eira Mawr 1982, pan ddisgynnodd troedfeddi o eira ledled Prydain.
“Mae e fel rhyw fath o amlen o her, lle rydych chi’n ceisio datrys posau a chodau,” meddai.
“Mae’r cyfan yn cael ei werthu mewn un amlen, ac yr un cysyniad â’r garafán mewn ffordd, ond does dim rhaid i chi symud o ford y gegin.
“Roedd rhai yn y Ffair Nadolig yn fwy tueddol o fynd am yr amlen, achos roedd yr holl beth am y garafán yn ofni lot o bobol!
“Roedd sawl un yn prynu’r amlenni er mwyn ei chwarae dros y Nadolig, a’i chwblhau gyda theuluoedd.”
Ar y gweill
Mae’r criw yn gobeithio y bydd JENGYD yn gallu bod yn fusnes bach maes o law, ar ôl cyfnod yn “arbrofi”.
“Fe gawson ni lot o sgyrsiau am le y’n ni’n mynd nesaf,” meddai.
“Rydyn ni’n sicr eisiau mynd â’r garafán i leoliadau.
“Yn y Ffair Nadolig, fe wnaeth dipyn o ddysgwyr ddangos diddordeb hefyd, gan eu bod nhw eisiau gweithgareddau gwahanol i wneud, ac roedd dipyn o athrawon eisiau cael y garafán i’r ysgolion.
“Byddwn ni’n mynd ar Ionawr 2 i Ffostrasol, gan fod dipyn o bobol wedi prynu talebau fel anrhegion Nadolig, a bydd y talebau ar gyfer y diwrnod hwnnw.
“Mae gyda ni fwriad o fynd wedyn unwaith bob mis neu ddau fis, yn dibynnu ar y galw.”
Mae gan y criw ychydig o syniadau newydd hefyd, a fyddai’n cael eu gwireddu yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y flwyddyn nesaf.