Mae penaethiaid Cyngor Ynys Môn yn pryderu ar ôl i’r ynys gofnodi’r nifer uchaf erioed o achosion Covid-19 ar un diwrnod.

Ddydd Mawrth (Tachwedd 30), fe wnaeth tîm Profi, Olrhain a Diogelu’r ynys gofnodi 99 o achosion positif, i fyny o 92 y diwrnod blaenorol, sy’n dilyn patrwm o nifer uchel iawn o achosion dros y tri mis diwethaf.

“Mae hyn yn bryderus iawn gan ein bod yn gweld achosion mewn trefi a chymunedau ar draws yr Ynys ac yn y mwyafrif o grwpiau oedran,” meddai Llinos Medi, arweinydd y Cyngor.

“Mae Ynys Môn yn haeddu clod enfawr am gadw at y rheolau a gwarchod ei chymunedau.

“Mae’r Nadolig yn prysur agosáu ac i sicrhau bod gennym Nadolig gwell na’r llynedd, mae’n rhaid i ni gymryd pob rhagofal i amddiffyn ein hunain, ffrindiau a theuluoedd rhag y feirws hwn.

“Mae’r 20 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond drwy ofalu am ein gilydd, gallwn obeithio am Flwyddyn Newydd llawer gwell.

“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.”

Cynnydd dramatig

Gydag ymhell dros 1,433 o achosion wedi’u cofnodi dros fis Tachwedd, mae’r ffigyrau wedi cynyddu’n ddramatig ers mis Gorffennaf.

O ganlyniad, caiff pobol sydd â symptomau eu hannog i ymweld â’r ganolfan brofi galw i mewn a gyrru drwodd ym Maes Parcio staff Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni, gyferbyn ag ATS Euromaster,

Mae modd gwneud apwyntiad ar gyfer prawf drwy ymweld â https://gov.wales/get-tested-coronavirus-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Mae profion Llif Unffordd am Ddim hefyd ar gael yng nghanolfannau hamdden a llyfrgelloedd Ynys Môn i unrhyw un eu casglu.