Bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio yn Seland Newydd fory (dydd Gwener, Rhagfyr 3), ond mae pryderon am ddiogelwch y Maori yn sgil cyfraddau heintio uchel.

Mae’r wlad wedi bod yn brwydro yn erbyn y feirws ers dwy flynedd, ac wedi dileu achosion yn gyfangwbl ar un adeg, ond mae sut i ddiogelu’r Maori yn un o brif heriau’r prif weinidog Jacinda Ardern erbyn hyn.

Fel rhan o’r llacio, bydd busnesau’n cael ailagor, ac mae disgwyl i gyfyngiadau yn ninas Auckland ddod i ben ganol y mis, a bydd ffiniau rhyngwladol yn ailagor o fis nesaf.

Ac mae’r Maori yn poeni y gallai’r cyfyngiadau eu gwthio nhw ymhellach i gyrion cymdeithas.

“Mae’n ymddangos fel mai’r Maori yw’r bobol fwyaf dibwys yn y wlad hon,” meddai Debbie Ngarewa-Packer, cyd-arweinydd Plaid y Maori wrth asiantaeth newyddion Reuters.

“Mae’r prif weinidog yn benderfynol o agor i fyny cyn y Nadolig, hyd yn oed os yw hynny ar draul y Maori.”

Y Maori a’u hiechyd

Mae’r Maori yn cyfrif am oddeutu 15% o boblogaeth Seland Newydd, gwlad lle mae rhyw bum miliwn o bobol yn byw ar draws y ddwy ynys.

Mae’r Maori ymhlith y cymunedau lle mae’r gyfradd heintio ar ei huchaf, gyda rhyw 200 o achosion newydd ar gyfartaledd bob dydd.

Dim ond tua 69% o’r Maori sydd wedi’u brechu’n llawn, o gymharu â 90% o weddill y boblogaeth.

Yn ôl rhai, strategaeth frechu’r llywodraeth sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth wrth iddyn nhw flaenoriaethu pobol oedrannus. Mae oddeutu 70% o’r Maori o dan 40 oed.

Ymhlith y ffactorau eraill mae hiliaeth sefydliadol, diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth a llai o fynediad i’r Maori at wasanaethau iechyd mewn trefi bychain.

‘Pob methiant systemig o fod yn Maori’

“Rydyn ni’n profi pob methiant systemig dim ond drwy fod yn Maori,” meddai Debbie Ngarewa-Packer wedyn.

Ac mae rhagor o bryderon bellach o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron, er nad yw hwnnw wedi cyrraedd y wlad eto.

Ond fe fydd ‘goleuadau traffig’ yn dod i rym, wrth i bobol gael symud yn fwy rhydd nag o’r blaen yn ddibynnol ar gyfraddau brechu a chyfraddau’r haint mewn gwahanol ardaloedd.

Mae rhai o arweinwyr y Maori wedi beirniadu’r cynllun, gan gymharu’r sefyllfa â’r gêm Netflix ‘Squid Game’, lle mae cymeriadau’r chwaraewyr sy’n colli yn cael eu lladd.

“Mae’r prif weinidog yn dweud na fydd neb yn cael ei adael ar ôl,” meddai Rawiri Waititi, un arall o gyd-arweinwyr y blaid, mewn neges ar Instagram gyda llun o ‘Squid Game’.

“Yr hyn mae hi’n ei olygu yw na fydd neb ac eithrio’r Maori yn cael ei adael ar ôl.”

Ymateb y llywodraeth

Yn ôl Jacinda Ardern, cafodd y perygl i’r Maori  ei ystyried yn ystod cyfnod cynnar y pandemig.

“Roedden ni’n gwybod y byddai’n cael effaith anghymesur ar ein poblogaeth Maori a phobol o’r Môr Tawel, a dyna pam ein bod ni wedi cymryd agwedd o geisio lleihau’r effaith gymaint â phosib ac fe arweiniodd hynny at ein strategaeth ddileu,” meddai.

Yn groes i dystiolaeth o’r gymuned frodorol, mae hi’n mynnu bod cyfraddau brechu ymhlith y Maori oedrannus yn debyg i’r boblogaeth ehangach.

“Ein pobol iau mewn rhannau o’r wlad yw lle dydyn ni ddim wedi cael y cyfraddau uwch hynny,” meddai.

Er i’r llywodraeth geisio cyflymu’r broses o frechu’r Maori ar un adeg, gan gynnwys sefydlu grwpiau i ymateb i’r pandemig o fewn y gymuned frodorol, mae beirniaid yn dweud bod y cam hwnnw’n rhy fach ac wedi’i gymryd yn rhy hwyr.

Mae ymateb Llywodraeth Seland Newydd yn golygu bod y Maori yn gorfod cymryd rhai camau i’w gwarchod eu hunain ac i leihau effaith y feirws.

Yn ardal Northland, sy’n boblogaidd ymhlith y Maori, mae arweinwyr brodorol yn cydweithio â’r heddlu i sefydlu mannau goruchwylio er mwyn cadw pobol allan os nad ydyn nhw wedi cael eu brechu.

“Dw i’n credu mai’r realiti yw fod y Maori yn poeni,” meddai Hone Harawira, cyn-seneddwr a sylfaenydd Te Tai Tokerau, corff sy’n rheoli ffiniau, wrth raglen foreol Newshub.

“Mae’r whanau [y gymuned Maori] yn ofni’r hyn maen nhw’n ei weld yn dod, a dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw beth da yn dod.

“Maen nhw eisiau gwybod yn gyntaf ac yn bennaf oll fod pobol yn mynd i gael eu gwarchod.”