Mae gynghorydd blaenllaw yn galw am gefnogaeth i rieni ddysgu Cymraeg fel y gallan nhw helpu eu plant sy’n mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg.

Ar ganol ymgynghoriad wyth wythnos ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, cafodd cynghorwyr ar bwyllgor craffu Addysg a Sgiliau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y cyfle i gyfrannu at y broses.

Eglurodd Lynn Phillips, cyfarwyddwr addysg y Cyngor, fod angen cyflwyno drafft cyntaf y cynllun deng mlynedd i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Ionawr ac y byddai’n “dod yn weithredol” fis Medi nesaf.

“Y disgwyl yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“‘Rydym wedi cynnig gweledigaeth sef adeiladu ar y cynnydd cryf a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag addysg cyfrwng Cymraeg, drwy greu system addysg sy’n gwella’r ddarpariaeth a’r defnydd o’r iaith ar draws ysgolion.”

Ychwanegodd mai un o’r amcanion oedd codi proffil addysg cyfrwng Cymraeg ynghyd â “manteision bod yn ddwyieithog”.

Tredegar

Cyfeiriodd hefyd at y cynlluniau i greu ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg gyda lle i 210 o blant yn ardal Tredegar.

Byddai hyn yn dyblu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent – Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nantyglo yw’r unig un ar hyn o bryd.

Mae cyllid ar gyfer “uned drochi”, a fyddai’n helpu plant sy’n hwyr yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu addysg ddwys yn yr iaith a diwylliant, hefyd yn cael ei ystyried.

Ychwanegodd Lynn Phillips y byddai Blaenau Gwent yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos ar “ateb” addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Cefnogi rhieni

Siaradodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Haydn Trollope, sydd â nai wyth oed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac sy’n mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, am gefnogi rhieni.

“Pan fydd gennym yr ysgol Gymraeg yn Nhredegar mae angen i ni sicrhau ein bod yn cefnogi’r rhieni, ni fydd llawer ohonynt yn siarad Cymraeg a bydd angen i ni eu helpu,” meddai.

Atebodd fod gallu cyfathrebu yn Gymraeg gartref yn “sylfaenol”.

“Bydd angen i ni sicrhau bod gan rieni’r sgiliau cywir, fel bod plant yn gallu gwneud y defnydd gorau o’r iaith,” meddai.

Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid derbyn y cynllun drafft.