Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn credu eu bod nhw wedi darganfod pam fod y gwaed yn gallu ceulo ar ôl i bobol dderbyn brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn erbyn Covid-19.
Yn ôl y tîm yn y brifddinas ac yn yr Unol Daleithiau, mae modd olrhain yr adwaith i’r ffordd mae’r adenofeirws sydd yn cael ei ddefnyddio gan y brechlyn i symud deunydd genynnol y feirws i mewn i gelloedd yn asio gyda phrotein arbennig yn y gwaed.
Mae gwyddonwyr o’r farn y gall hyn achosi adwaith yn y system imiwnedd sy’n gallu arwain at geulo’r gwaed, neu gyflwr o’r enw VITT.
Atal a thrin
“Dim ond mewn achosion eithriadol o brin mae VITT yn digwyddd oherwydd mae angen i gadwyn o ddigwyddiadau cymhleth iawn ddigwydd er mwyn achosi’r effeithiau prin iawn hyn,” meddai’r Athro Alan Parker o Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.
“Mae ein data yn cadarnhau y gall PF4 asio gydag adenofeirysau, cam pwysig wrth ddatgelu’r mecanwaith y tu ôl i VITT.
“Gallai dod o hyd i fecanwaith helpu i atal a thrin yr afiechyd hwn.
“Gobeithiwn y gall ein casgliadau gael eu defnyddio i ddeall effeithiau mwyaf prin y brechlynnau newydd hyn – ac, o bosib, i ddylunio brechlynnau newydd a gwell i achosi tro pedol yn y pandemig byd eang hwn.”
Ymchwil newydd
Cymerodd gwyddonwyr o AstraZeneca ran yn yr ymchwil a gafodd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science Advances.
“Er nad yw’r ymchwil yn derfynol, mae’n cynnig mewnwelediadau diddorol ac mae AstraZeneca yn archwilio ffyrdd o fanteisio ar y casgliadau hyn fel rhan o’n hymdrechion i ddileu’r effeithiau prin iawn hyn.”