Mae Conradh na Gaeilge yn galw ar y Cenhedloedd Unedig i ymyrryd er mwyn helpu i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg.

Bydd hawliau’r Wyddeleg yn cael eu trafod mewn sesiwn gan Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifoedd yr wythnos hon.

Thema’r fforwm eleni yw “Atal Gwrthdaro ac Amddiffyn Hawliau Dynol Lleiafrifoedd”.

Bydd Conradh na Gaeilge yn siarad yn y fforwm heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 2), gan drafod rhan gwladwriaethau, mudiadau rhynglywodraethol, cymdeithas sifig a lleiafrifoedd wrth fynd i’r afael ag achosion o wrthdaro sy’n mynd yn groes i hawliau dynol a chyfrifoldebau rhyngwladol.

Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i gydraddoldeb, hawliau ieithoedd lleiafrifol a gwahardd gwahaniaethu.

‘Parchu cytundebau’

Bydd Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eirioli Conradh na Gaeilge, yn cynrychioli’r mudiad yn y Fforwm, ochr yn ochr â channoedd o gynrychiolwyr eraill.

Wrth siarad cyn y Fforwm, dywedodd Conchúr Ó Muadaigh ei fod yn “croesawu’r cyfle i siarad yn Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifoedd am yr iaith Wyddeleg”.

“Mae’r Fforwm hwn yn lle sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau lleiafrifoedd, a byddwn yn ceisio ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig er mwyn cael eu cefnogaeth yn ein hymgyrch gymunedol am Ddeddf Iaith Wyddeleg,” meddai.

“Byddwn ni’n atgyfnerthu ein hegwyddor graidd, sef bod rhaid cadw at gyfreithiau a rhwymedigaethau rhyngwladol, a pharchu cytundebau.

“Rydyn ni’n credu bod Llywodraeth Prydain wedi torri eu rhwymedigaethau rhyngwladol tuag at hawliau iaith siaradwyr Gwyddeleg yn gyson ers degawdau, ac wedi gadael nifer o’u dyletswyddau rhwymedig fel cyd-warantwyr ein cytundebau heddwch heb eu cwblhau’n llawn a heb gael effaith wirioneddol.

“23 mlynedd wedi Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, ni ellir caniatáu gwadu hawliau ieithyddol am ddim hirach.

“Mae’n rhaid i siaradwyr Gwyddeleg, ac yn wir, gymunedau tebyg dros y byd, barhau i herio’r gwrthwynebiad, enwadaeth, a’r gwthio i’r cyrion, os ydyn ni am weld dyfodol wedi’i adeiladu ar oddefgarwch, parch rhwng y ddwy ochr, a gwarchodaeth gynhwysol tuag at leiafrifoedd.”

Bydd Conradh na Gaeilge yn galw ar y Fforwm i gefnogi cyflwyno cyfraith a strategaeth gynhwysol ar gyfer yr iaith Wyddeleg ar frys, a chefnogi ymrwymiad yn ymwneud â datblygiad strategol addysg Wyddeleg.

Maen nhw am weld y Fforwm yn cyhoeddi datganiad i’r wasg yn adlewyrchu’r gofynion hynny, a dangos cefnogaeth gyhoeddus i’w hymdrechion.

Deddf Iaith Wyddeleg: cyhoeddi llythyr gan ymgyrchwyr at Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon

“Yn anad dim arall, rydym yn galw ar y Llywodraeth Brydeinig i symud y ddeddfwriaeth hon ar unwaith yn San Steffan heb oedi pellach”